Gallwn ddarparu’n holl seminarau fel rhai mewnol, yn eich cwmni, neu agored.
Mae seminarau mewnol yn gyfle i ni ganolbwyntio ar anghenion eich tîm. Felly os oes gennych nifer mawr o staff sydd am fynychu seminar penodol, gall fod yn well gennych os yw’r Gofrestrfa Tir yn dod atoch chi. Bydd gennych yr hyblygrwydd i ddewis hyfforddiant ar unrhyw o’r pynciau cofrestru tir a restrir yn yr adran pynciau seminarau a dewis y lleoliad a'r dyddiad o'r amserlen seminarau.