Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Education & training
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Pam dewis hyfforddiant y Gofrestrfa Tir?

Y Gofrestrfa Tir yw’r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth ar ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir. Yn atebol i’r Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, rydym yn chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth sy’n effeithio ar drawsgludo cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys datblygu system drawsgludo electronig a fydd yn trawsnewid y ffordd o brynu a gwerthu eiddo yng Nghymru a Lloegr. Pwy gwell i roi cyngor i chi am weithdrefnau trawsgludo cofrestredig na'n harbenigwyr?

Trwy ddewis hyfforddi gyda ni, gallwch fanteisio ar y canlynol:

  • gwybodaeth arbenigol
  • ymdriniaeth fanwl â materion allweddol ym maes trawsgludo cofrestredig sy'n effeithio arnoch
  • oriau DPP

Ar hyn o bryd darperir hyfforddiant y Gofrestrfa Tir gan ein harbenigwyr mewnol trwy nifer cyfyngedig o gyrsiau am ddim. Byddwn yn parhau i gynnig y cyrsiau hyn, ond, mewn amser o newid ac wrth i ni edrych i’r dyfodol, rydym yn gwybod y gallwn wneud mwy i gwrdd â’ch anghenion yn well.

Mae'r tudalennau hyn yn esbonio sut mae'r Gofrestrfa Tir yn bwriadu darparu amrywiaeth eang o opsiynau hyfforddiant, yn cynnwys seminarau, a gyflenwir mewn dull sy'n addas i chi. Fe welwch wybodaeth am seminarau sy'n trafod amrywiaeth o bynciau allweddol, ffurfiau newydd ar hyfforddiant a ddarperir fel digwyddiadau agored neu seminarau mewnol, modiwlau hyfforddiant electronig gydag achrediad DPP, modiwlau hyfforddiant ar-lein, llyfrgell o fwletinau a chyfarwyddiadau ymarfer a chyhoeddus, ac adnoddau cyfeirio megis cymhorthion desg a rhestrau gwirio. Mae'r tudalennau hyn yn esbonio sut i gadw lle a ble i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym hefyd yn croesawu unrhyw adborth neu sylwadau am beth arall y gallwn ei wneud i'ch helpu.

Ffurflenni cadw lle/archebu

Seminar mewnol
Seminar agored
Archebu CD ROM
Canslo
Ymholiadau cyffredinol

Trwy ddilyn y cysylltau uchod rydych yn cael eich ailgyfeirio i dudalen Saesneg.

Hyfforddiant Cwsmeriaid

Cyflwyniad

Pam dewis hyfforddiant y Gofrestrfa Tir?

Seminarau hyfforddiant agored

Seminarau hyfforddiant mewnol

Pynciau seminarau

Amserlen seminarau

Beth yw'r gost?

Sut i gadw lle

Adnoddau e-ddysgu

Hyfforddiant parhaus am ddim

Telerau ac amodau seminarau agored [PDF]