Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Education & training
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir

Rhaglen dysgu o bell yw'r Cymhwyster sy'n cael ei chynnal gan y Gofrestrfa Tir mewn partneriaeth â Choleg y Gyfraith, y cyflenwr addysg gyfreithiol mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae’n bartneriaeth sy’n gwarantu cywirdeb academaidd a chyflenwad proffesiynol. Trwy astudio ar gyfer y dystysgrif neu’r diploma byddwch yn clywed y diweddaraf am gyfraith cofrestru tir o lygad y ffynnon. Bydd y cyrsiau o fudd i'r rhai sydd heb brofiad yn y maes hwn, yn ogystal â'r ymarferydd profiadol. Gyda'n rhaglen astudio strwythuredig sy'n cael ei chyflenwi ar ffurf dysgu o bell gyda chefnogaeth, gallwch drefnu'ch amser astudio i gyd-fynd â'ch bywyd prysur.

Beth yw’r manteision?

Bydd y cymhwyster yn rhoi i chi a’ch tîm y wybodaeth ddiweddaraf ym maes cyfraith cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, y gyfraith eiddo sy’n sail iddi ac ymarfer y Gofrestrfa Tir ym maes y gyfraith a chynlluniau.

Bydd yn rhoi i’ch staff heb gymwysterau fwy o hyder yn eu gallu i ddelio â chyfarwyddiadau, gan ganiatáu iddynt ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a chyfeirio llai o faterion at staff cymwys. Bydd hyn yn cynyddu eu boddhad yn y gwaith.

Yn achos staff cymwys bydd yn sicrhau eu bod yn cadw i fyny gyda’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfraith ac ymarfer. I’ch sefydliad yn gyffredinol bydd yn golygu safonau uwch, llai o anfon gwaith allan a chostau is.

Barn ein myfyrwyr

Dysgodd cyfreithiwr dirprwyol Christine Knibb “lwyth o bethau” ar gwrs dwy flynedd y diploma. “Mae wedi rhoi i mi wybodaeth fanwl o’r Ddeddf Cofrestru Tir, gan gynnwys meddiant gwrthgefn,” dywedodd Christine. “Yn fy marn i mae llawer o gyfreithwyr heb feddwl am oblygiadau’r ddeddf o ran tir cofrestredig a meddiant gwrthgefn.

“Mae’r cwrs yn cynnig gwerth am arian ac roedd y penwythnosau astudio a diwrnodau adolygu’n ardderchog yn fy marn i. Byddwn i’n pwysleisio y dylai unrhyw un sy’n dilyn y cwrs neilltuo’r amser i fynd i’r rhain.”


Dechreuodd Deborah Colvill ddilyn cwrs y dystysgrif pan gafodd ei phenodi’n Rheolwr Ôl-gwblhau gyda’r cwmni cyfreithwyr Howes Percival. “Yn fy ngwaith bob dydd mae fy staff yn gofyn cwestiynau di‑baid,” dywedodd Deborah. “Gallen nhw ofyn i mi ynglŷn â ffurflen arbennig i’w llenwi, neu ffïoedd, neu drosglwyddiadau ecwiti. Rwy’n fwy hyderus am eu hateb nawr. Mae’r ‘beibl’ - llyfr y cwrs - wrth fy ymyl trwy’r amser.”

Mae gan Gymdeithas Adeiladu Nationwide chwe ymgeisydd ar gwrs y dystysgrif eleni ar ôl i 11 ei gwblhau llynedd. Yn ôl Sheila Bryan, Rheolwr Tîm yn y Ganolfan Gwasanaeth Morgais, roedd hyn yn profi pa mor werthfawr yw’r cwrs.

“Doedd dim cymwysterau cyfreithiol gan y rhan fwyaf ohonom, felly penderfynwyd ei fod yn addas i ni,” meddai. “Pan fyddwn yn cofrestru arwystl mae’n rhaid i ni fod yn gyfarwydd â’i deithi – mae rhai pethau’n ddidrafferth a rhai sy’ ddim mor rhwydd.

“Mae’r cwrs wedi rhoi i ni wybodaeth fanwl ynghylch beth sydd ei angen arnom er mwyn darparu’n gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Dysgon ni lawer – roedd yn werthfawr iawn.”

Ffïoedd cyrsiau yn dechrau ym Medi 2008

Cwrs y Dystysgrif

  • £825 (gan gynnwys digwyddiad rhagarweiniol deuddydd)

Cwrs y Diploma

  • Blwyddyn 1- £750 (gan gynnwys digwyddiad rhagarweiniol undydd)
  • Blwyddyn 2- £700

Digwyddiadau astudio dewisol

Darperir digwyddiadau astudio dewisol ar gyfer y ddau gwrs ac mae'n rhaid talu amdanynt ar wahân wrth eu mynychu.

Cwrs y dystysgrif

  • 2 ddiwrnod astudio am £115 yr un
  • Penwythnos astudio am £230

Cwrs y diploma

  • Blwyddyn 1 - Diwrnod astudio a diwrnod adolygu am £115 yr un a phenwythnos astudio am £230
  • Blwyddyn 2 - Diwrnod astudio a diwrnod adolygu am £120 yr un a phenwythnos astudio am £240

 

Cyhoeddiadau

I gael gwybodaeth fwy manwl gweler ein llyfryn cwrs.

Pecyn gwybodaeth

Mae'r cyfnod cofrestru yn parhau o Ebrill i Fehefin bob blwyddyn ac mae’r cyrsiau yn dechrau ym mis Medi yr un flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn gallwch ofyn am ein pecyn gwybodaeth.

Tu allan i'r cyfnod cofrestru, gallwch roi eich manylion ar ein rhestr bostio a byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth atoch cyn gynted ag y byddant ar gael.

Cysylltwch â'r Tîm Cymwysterau i gael rhagor o fanylion.

Cysylltu â ni

Ymholiadau: Os yw'ch ymholiad yn academaidd, er enghraifft,  yn ymwneud â natur y cwrs, i ofyn a ydych yn gymwys i wneud cais neu i drafod pa gwrs fyddai'n addas i chi, dylech gysylltu â Choleg y Gyfraith.

Os oes gennych ymholiad gweinyddol, er enghraifft, am gofrestru cysylltwch â'r Tîm Cymwysterau.