Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Yn eich helpu i ymdopi â chyfyngiadau

Taflenni ffeithiau cyfyngiadau

1 Sut i ymdopi â chyfyngiad rheoli

3 Sut i ddelio â chyfyngiad ffurf A sydd eisoes yn bod
4 Sut i wneud cais am gyfyngiad i warchod buddiolwr dan ymddiried
5 Sut i ddelio â chyfyngiad sy'n ymwneud â gorchymyn tâl
6 Sut i ddelio â chyfyngiad dan Adran 9 Deddf Tai 1996
7  Sut i ddelio â gorchmynion rhewi                              
8 Cylchred ac effaith cyfyngiad(-au)
9 Newidadau i gyfyngiadau - effaith Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005

Diweddarwyd taflenni ffeithiau 1 ac 8 ar ôl i Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005 ddod i rym a diweddarwyd taflenni ffeithiau 5 a 6 i eglurhau gwybodaeth flaenorol. Paratowyd taflen ffeithiau 9 i gefnogi'r newidiadau hyn.

Mae nifer ohonoch wedi addasu’n weddol hawdd i’r newidiadau ymarfer a ddaeth yn sgîl ymddeddfu Deddf Cofrestru Tir 2002 ar 13 Hydref 2003. Er gwaethaf hyn mae rhai cwsmeriaid wedi dweud wrthym eu bod yn ei chael hi’n anodd o hyd i ddod i delerau â rhai newidiadau allweddol, yn cynnwys yr ymarfer sy’n ymwneud â chyfyngiadau.

Er mwyn mynd i’r afael â’r anawsterau hyn, rydym wedi cynhyrchu cyfres o daflenni ffeithiau a ffurflenni anodedig i’ch cynorthwyo i ddeall effaith cyfyngiadau yn well. Mae’n bosib yr hoffech gyfeirio at y rhain i gael arweiniad pan fyddwch yn delio â thrafodiad sy’n cynnwys cyfyngiad. Paratowyd y taflenni ffeithiau a ffurflenni anodedig i’ch tywys trwy rai o’r sefyllfaoedd mwyaf cyffredin, er enghraifft, sut i wneud cais am, neu gydymffurfio â chyfyngiad.

Ein nod wrth gynhyrchu’r deunyddiau hyn yw eich helpu i ddeall cyfyngiadau yn well gan felly lleihau nifer yr ymholiadau y mae’n rhaid inni eu codi. Ein gobaith yw y bydd hyn yn arbed amser a chostau i ymarferyddion a’r Gofrestrfa Tir. Cymorth hyfforddiant yw'r pecyn yn hytrach na chyfarwyddyd manwl i'n harfer o ran cyfyngiadau. Os hoffech gael gwybodaeth fwy manwl, dylech gyfeirio at Gyfarwyddyd Ymarfer 19 – Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau gennych am y deunyddiau hyn, dylech lenwi’r ffurflen werthuso ac archebu. Os oes angen copïau ychwanegol o'r taflenni ffeithiau gallwch eu llwytho i lawr o'r wefan hon.

Os hoffech dderbyn copïau papur neu os oes angen ffurf wahanol arnoch chi neu ar un o'ch cydweithwyr, llenwch adran briodol y ffurflen werthuso a'i hanfon at Peter Woolstenholmes, Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa, Lincoln's Inn Fields, LLUNDAIN, WC2A 3PH.

Yn ôl i hafan addysg a hyfforddiant

Taflenni ffeithiau cyfyngiadau

Taflen ffeithiau 1

Taflen ffeithiau 3

Taflen ffeithiau 4

Taflen ffeithiau 5

Taflen ffeithiau 6

Taflen ffeithiau 7

Taflen ffeithiau 8

Taflen ffeithiau 9

Ffurflenni anodedig

RX1

RX2

RX3

RX4

Cyfyngiadau safonol

Ffurflen werthuso ac archebu