Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Education & training
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Hyfforddiant cwsmeriaid

Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnig hyfforddiant mewn ymarfer a threfnau cofrestru tir i ymarferyddion ar bob lefel.

Pwy gwell na'n harbenigwyr i'ch helpu i wella'ch gwybodaeth am weithdrefnau trawsgludo cofrestredig?

Felly p’un ai ydych chi wedi cydweithio gyda ni am lawer o flynyddoedd, neu’n hollol newydd i faes trawsgludo, darllenwch ymlaen i weld sut y gallwn eich helpu ac, ar yr un pryd, cael eich achredu gydag oriau DPP dan gynlluniau Cymdeithas y Cyfreithwyr, Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC).

Seminarau

Ym mis Medi 2007 cyflwynwyd ein rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid gan gynnwys seminarau agored (yn ystod y dydd ledled y wlad) a seminarau mewnol (ar gyfer grwpiau yn eich swyddfa) mewn 15 lleoliad ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Rydym wedi ehangu'r rhaglen ar gyfer 2008/9 trwy gyflwyno pynciau newydd a chynnal mwy o seminarau ym mhob lleoliad.

Yn ystod 2008/9 byddwn yn cynnal ein rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid a gafodd ei chyflwyno llynedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn seminar agored, darllenwch y dudalen Seminarau agored  a'r dudalen  amserlen seminarau i gael gwybodaeth fanwl am bynciau lleoliadau a chofrestru.

Gallwch hefyd lwytho i lawr ein llyfryn seminarau diweddaraf (267Kb, ffeil PDF).  

Cost

Mae prisiau seminarau agored yn dechrau o £95 y pen am bob pwnc, neu gallwch fanteisio ar y gostyngiadau sydd ar gael pan fyddwch yn dewis dau (£125) neu dri (£200) phwnc.

Mae prisiau seminar mewnol  yn amrywio o £750 i £1,400 yn dibynnu ar y pynciau a hyd y seminar. Maent yn cael eu darparu ar gyfer hyd at 30 o bobl.


Cadw lle

Mae'r seminarau'n cael eu cynnal rhwng Tachwedd (eleni) ac Ebrill (y flwyddyn nesaf).

Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle o leiaf ddwy wythnos cyn y seminar.

Taliad

Mae'r Gofrestrfa Tir yn derbyn taliadau trwy BACS neu siec.

Polisi canslo

Rhaid canslo'n ysgrifenedig bob amser. Sylwch ein bod yn cadw'r hawl i ganslo seminar neu amrywio manylion y rhaglen heb rybudd.

I ganslo lle ar seminar, llenwch ffurflen ganslo ac anfonwch eich cais. Byddwn yn cadarnhau bod eich lle wedi'i ganslo.


Nodyn: Dylech ddarllen ein telerau ac amodau ar gyfer seminarau agored.

Cysylltau i is-adrannau

Seminarau agored

Seminarau mewnol

Amserlen seminarau

Lleoliadau seminarau

Ffurflenni cadw lle

Telerau ac amodau

Ffurflen ganslo

Hawddfreintiau - CD-ROM e-ddysgu

Yn ôl i Raglen hyfforddiant cwsmeriaid

“Mae llwyth o bethau yma i ddiwallu anghenion hyfforddiant cyfreithwyr mewn agwedd ar y gyfraith sy’n newid yn gyflym. Mae diweddaru gwybodaeth yn y maes hwn yn hollbwysig ac mae popeth y gallai fod ei angen ar gyfreithwyr yma.”
Cymdeithas y Cyfreithwyr