Rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid
Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu hyfforddiant ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir i ymarferwyr ar bob lefel.
Nid oes neb gwell na'n harbenigwyr i'ch helpu i wella eich gwybodaeth am ddefnyddio gweithdrefn trawsgludo cofrestredig.
P'un a ydych wedi gweithio gyda ni ers nifer o flynyddoedd neu'n gwbl newydd i drawsgludo, beth am weld sut y gallwn eich helpu a chael eich achredu gydag oriau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar yr un pryd o dan gynlluniau Cymdeithas y Cyfreithwyr, ILEX a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig?
Dewisiadau hyfforddi
Yn 2009/10, rydym yn cynnig pynciau fel seminarau mewnol, seminarau agored a gwe-seminarau.
Rydym yn cynnal gwe-seminarau byw hefyd ar bynciau amserol wrth iddynt godi.
Seminarau mewnol
Caiff yr hyfforddiant ei gynllunio'n bwrpasol i ddiwallu eich anghenion dysgu chi a'ch cwmni. Mae pob un o'n seminarau ar gael i'w chyflwyno gan un o'n harbenigwyr ar eich safle fel y gallwch ddysgu gyda'ch cydweithwyr a gofyn unrhyw gwestiynau'n hamddenol tra'n ennill oriau DPP achrededig, lle y bo'n briodol.
Seminarau agored
Mae seminarau agored ar gael am amrywiaeth o bynciau ac yn eich galluogi i ddysgu gyda gweithwyr proffesiynol eraill drwy ddull darlith. Gyda'r dull hwn byddwch yn dysgu gan un o'n staff profiadol ac maen gyfle i chi holi un o'n harbenigwyr yn uniongyrchol. Byddwch yn ymdrin â rhywun sy'n trin ceisiadau cofrestru tir bob dydd yn ogystal ag ennill oriau DPP achrededig os yw'n berthnasol.
Modiwlau ar-lein
Rydym yn cynnig modiwlau sy'n hyblyg y gellir eu cwblhau mewn sesiwn unigol neu wedi'u rhannu dros nifer o
sesiynau.
Maent ar gael drwy ryngwyneb y we gan eich galluogi i gael gafael arnynt ar unrhyw adeg a lle bynnag sy'n gyfleus i chi.
Oes diddordeb gennych? Rhowch gynnig ar ein modiwl sampl am Hawddfreintiau.
Noder: Bydd angen yr ategyn am ddim Adobe Flash Player i weld y modiwl.
Gwe-seminarau
Mae ein gwe- seminarau yn ddigwyddiadau hyfforddi byw am bynciau amserol wrth iddynt godi.
* Daw'r cyfle i brynu i ben ar ddydd Llun 22 Chwefror 2010.
** Daw'r cyfle i brynu i ben ar ddydd Llun 26 Ebrill
2010.
Noder: Mae recordiadau ar gael i'w prynu am hyd at dri mis ar ôl diwrnod y gwe-seminar.
Noder: Mae dosbarthiadau meistr ar lefel uwch ac maent ar gyfer cynadleddwyr sydd â gwybodaeth flaenorol sylweddol o'r pwnc
Cost
Mae seminarau mewnol yn amrywio o £500-£1,400, yn dibynnu ar y pynciau a'r hyd. (Gall hyd at 30 o gynadleddwyr fynd i bob seminar.)
Mae seminarau agored (sydd wedi'u hachredu ar gyfer DPP) yn dechrau o £99* y person. Mae seminarau agored (nad ydynt wedi'u hachredu ar gyfer DPP) yn dechrau o £45* y person.
Codir cyfradd safonol o £20 fesul awr achrededig DPP ar gyfer pob modiwl ar-lein. Y gost ar gyfer dau bwnc awr o hyd fydd £40, codir tâl o £60 am dri phwnc awr o hyd.
Cost gwe-seminarau yw £75 w sesiwn.
*Mae amodau archebu yn berthnasol.
Noder: Nid yw TAW yn daladwy ar yr hyfforddiant uchod.
Archebion
Gweler ein E-lyfryn (ar gyfer disgrifiadau pwnc ac oriau DPP), ein Hamserlen (ar gyfer lleoliadau, pynciau a gynigir ac amserau cofrestru), ein COA ar gyfer modiwlau ar-lein a gwe-seminarau a'r dudalen Gwneud archeb (ar gyfer manylion archebu).
Talu
Gallwch dalu drwy ddefnyddio:
- BACS, siec neu gerdyn credyd/debyd ar gyfer seminarau agored neu mewnol
- Cerdyd credyd/debyd ar gyfer modiwlau ar-lein a gwe-seminarau
Noder: Caiff taliadau eu prosesu gan ein tÎm Cyflawniad Datblygu Busnes, ffôn - 0151 473 6137. Maent ar agor rhwng 9 am a 5 pm (dydd Llun i ddydd Gwener).