Cadw lle
Ffoniwch ein tîm Cyflawniad Datblygu Busnes ar 0800 678 1678 i gadw lle ar gyfer ein Rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid ar gyfer 2010/11.
Maent ar agor rhwng 9 am a 5 pm (dydd Llun i ddydd Gwener).
Byddant yn derbyn taliadau drwy:
- BACS, siec neu gerdyn credyd/debyd ar gyfer seminarau mewnol
- Cerdyn credyd/debyd ar gyfer modiwlau ar-lein a gwe-seminarau
Fel arall, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein ar gyfer seminarau mewnol neu seminarau agored i wneud cais i gadw lle. Yna byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich gofynion a threfnu taliad. Rydym yn argymell y dull hwn os nad oes gennych fanylion talu wrth law.
Noder 1: Gallwch gadw lle hyd at 9am ar ddiwrnod y gwe-seminar. (Mae recordiadau o we-seminarau byw ar gael i'w prynu hefyd am hyd at dri mis ar ôl diwrnod y gwe-seminar.)
Noder 2: Sicrhewch eich bod yn darllen ein telerau ac amodau cyn cadw lle.