Arweiniodd y broses o weithredu Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 ar 10 Tachwedd 2008 at ddisodli atodiad 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (sy'n cynnwys y cyfyngiadau safonol) yn llwyr.
Dylid darllen Atodiad 4 ar y cyd â Rheol 91A diwygiedig, paragraffau 4,5,6,7 ac 8. (4) Gall cyfyngiad yn Ffurf L, N, S, T, II, NN neu OO ddechrau gyda-
(a) the words "y geiriau "Hyd farwolaeth [enw]",
(b) y geiriau "Hyd farwolaeth goroeswr [enwau dau neu ragor o unigolion]", neu
(c) y gair "Hyd" wedi'i ddilyn gan ddyddiad calendr.
(5) Gall cyfyngiad yn Ffurf M, O, P neu PP ddechrau gyda'r gair "Hyd" wedi'i ddilyn gan ddyddiad calendr.
(6) Where Lle y mae cyfyngiad yn Ffurf J, K, Q, S, T, BB, DD, FF, HH, JJ, LL neu OO yn ymwneud ag arwystl cofrestredig, sef un o ddau neu ragor o arwystlon cofrestredig o'r un dyddiad ac sy'n effeithio ar yr un ystad gofrestredig, rhaid ychwanegu'r geiriau "o blaid" wedi'u dilyn gan enw'r perchennog cofrestredig i'r cyfyngiad ar ôl dyddiad yr arwystl.
(7) Lle y ceir y gair "hwy" mewn ffurf safonol o gyfyngiad sy'n cyfeirio at unigolyn a enwir yn y cyfyngiad, gellir ei ddisodli fel sy'n briodol gan y gair "ef", hi", "ei" neu "eu".
(8) Lle y mae ffurf safonol o gyfyngiad yn caniatáu pennu math o warediad yn lle'r gair "gwarediad", y mathau o warediad y gellir eu pennu yw "trosglwyddiad", "prydles", "arwystl" neu "is-arwystl", neu unrhyw gyfuniad priodol o'r mathau hyn.
Mae staff y Gofrestrfa Tir yn defnyddio telerau unrhyw gyfyngiad fel y mae'n ymddangos yn y gofrestr. Nid ydynt yn cyfeirio at unrhyw gymal cydymffurfio yn y weithred. Yn aml mae staff y Gofrestrfa Tir yn gweld bod y cyfyngiad y gwneir cais amdano yn mynd y tu hwnt i delerau'r cymal cydymffurfio. Enghraifft gyffredin o hyn yw pan fydd y cymal cydymffurfio yn amlwg yn cynnwys arwystlon ond mae'r cyfyngiad y gwneir cais amdano yn cynnwys y rhagosodiad "Dim gwarediad" ond heb yr amod "(heblaw arwystl)". Mae hyn yn golygu y caiff unrhyw gais dilynol am arwystl yn cael ei gynnwys a bydd hyn yn arwain at ymholiad i'r ceisydd na fydd rhaid iddynt gydymffurfio ag
ef.
Rydym wedi cynhyrchu pump o fodiwlau i'ch cynorthwyo wrth ddewis y dulliau amgen priodol i greu cyfyngiadau yn Ffurflen L, Ffurflen M, Ffurflen O, Ffurflen NN a Ffurflen PP.
Mae'r modiwlau ar gyfer Ffurflen L a Ffurflen NN yn esbonio sut i ddewis yr opsiynau amgen sydd ar gael. Ar ôl eu cwblhau gallwch gopïo cyfyngiad wedi'i gwblhau a'i ludo i'ch dogfen neu ffurflen gais.
Mae'r modiwlau ar gyfer Ffurflen M, Ffurflen O a Ffurflen PP yn dangos, trwy enghraifft, sut i sicrhau y bydd y cyfyngiad rydych yn gwneud cais amdano yn cyflawni'i amcan. Bydd hyn yn arbed y drafferth a'r gost o gynhyrchu tystiolaeth o gydymffurfio nad oes ei hangen gan delerau'r weithred sy'n cael ei diogelu.
Nid yw'r wybodaeth a roddir yn y modiwlau yn benodol i'r cyfyngiadau dan sylw. Gellir ei defnyddio lle bynnag y mae cyfyngiad ffurflen safonol yn cynnwys opsiynau tebyg dewisiadau amgen.
|