Y Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir
Cyrsiau dysgu o bell yw'r Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir.
Mae'n cael ei gynnal gan y Gofrestrfa Tir mewn partneriaeth â Choleg y Gyfraith, y cyflenwr addysg gyfreithiol mwyaf blaenllaw yn y DU.
Mae'n bartneriaeth sy'n gwarantu cywirdeb academaidd a chyflenwad proffesiynol gan yn ffynonellau mwyaf awdurdodol.
Cyrsiau
Cyflwynodd y Gofrestrfa Tir y cyrsiau ym mis Medi 2000.
Heddi mae dwy lefel ar gael (tystysgrif a diploma).
Cwrs sylfaen un flwyddyn y'w dystysgrif sy'n darparu cyflwyniad i gyfraidd eiddo, gan gynnwys cyfraith ac ymarfer cofrestru tir. Mae'r cwrs yn gydradd â Safon Uwch.
Cwrs dwy flynedd yw'r diploma sy'n cynnig ymdriniaeth gynhwysfawr a fanwl o gyfraith eiddo gan gynnwys ymarfer cofrestru tir. Mae'r cwrs ar lefel gradd.
Manteision
- Byddwch chi a'ch tîm yn manteisio ar y wybodaeth ddiweddaraf ym maes cofrestru tir a chyfraith tir a ffordd y Gofrestrfa Tir o weithio.
- Bydd eich staff heb gymwysterau yn gallu delio â chyfarwyddiadau'n fwy hyderus, bydd llai o angen iddynt ofyn am gymorth a bydd eu boddhad yn eu gwaith yn cynyddu.
- Bydd eich sefydliad yn elwa o safonau'n codi, bydd llai o angen anfon gwaith allan a bydd costau'n gostwn.
Achrediad ar gyfer y cwrs diploma
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y rhoddwyd cymeradwyaeth, o dan bwerau dyfarnu graddau Coleg y Gyfraith, i'r cwrs diploma gael ei achredu.
Cymeradwywyd y diploma ym mis Awst 2009 gan Fwrdd Academaidd Coleg y Gyfraith cyn i'r cwrs newydd ddechrau ym mis Medi 2009.
Dyfernir Diploma Graddedig i fyfyrwyr sy'n cwblhau dwy flwyddyn y cwrs â gwerth 80 credyd ar Lefel Anrhydedd.
Mae llawer o sefydliadau addysg uwch yn derbyn credyd gan sefydliadau eraill tuag at raglenni gradd, a gan fod Coleg y Gyfraith yn ddarparwr credydau'r DU a gydnabyddir yn llawn, gall fod yn bosibl defnyddio credydau'r diploma yn y modd hwn.
Llyfryn y cwrs
Gweler llyfryn diweddaraf y cwrs (888 Kb, fformat PDF).
Cofrestru
Cynhelir y cwrs rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn. Mae cyrsiau'n dechrau ym mis Medi'r flwyddyn honno.
Yn ystod y cyfnod cofrestru gallwch ofyn am ein pecyn gwybodaeth.
Ar adegau eraill, anfonwch neges e-bost atom gyda'ch manylion ar gyfer ein rhestr bostio. Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth atoch pan fyddant ar gael.
Cost - Cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2009
Bydd manylion ffioedd ar gyfer cyrsiau'r flwyddyn nesaf ar gael yn ystod y cyfnod cofrestru sy'n dechrau ym mis Ebrill 2010.
Digwyddiadau dewisol
Mae'r ddau gwrs yn cynnwys digwyddiadau astudio dewisol, y gost i'w thalu ar wahân ymlaen llaw.
Tystysgrif
Sefydlu (2 ddiwrnod) - £230
Diwrnodau astudio (2 sydd ar yr amserlen) - £115 yr un
Penwythnos astudio - £230
Noder:
Digwyddiad graddio - i'w gadarnhau ar ôl gwahoddiad.
Diploma
Blwyddyn 1
Sefydlu (1 diwrnod) - £115
Diwrnodau astudio (2 sydd ar yr amserlen) - £115 yr un
Penwythnos astudio - £230
Blwyddyn 2
Noder: Digwyddiad graddio - i'w gadarnhau ar ôl gwahoddiad.