www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Addysg a Hyfforddiant

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Y Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir

Cyrsiau dysgu o bell yw'r Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir.

Mae'n cael ei gynnal gan y Gofrestrfa Tir mewn partneriaeth â Choleg y Gyfraith, y cyflenwr addysg gyfreithiol mwyaf blaenllaw yn y DU.

Mae'n bartneriaeth sy'n gwarantu cywirdeb academaidd a chyflenwad proffesiynol gan yn ffynonellau mwyaf awdurdodol.

Cyrsiau

Cyflwynodd y Gofrestrfa Tir y cyrsiau ym mis Medi 2000.

Heddiw mae dwy lefel ar gael (tystysgrif a diploma).

Cwrs sylfaen un flwyddyn yw'r dystysgrif sy'n darparu cyflwyniad i gyfraith eiddo, gan gynnwys cyfraith ac ymarfer cofrestru tir. Mae'r cwrs yn gydradd â Safon Uwch.

Cwrs dwy flynedd yw'r diploma sy'n cynnig ymdriniaeth gynhwysfawr a fanwl o gyfraith eiddo gan gynnwys ymarfer cofrestru tir. Mae'r cwrs ar lefel gradd.

Manteision

  • Byddwch chi a'ch tîm yn manteisio ar y wybodaeth ddiweddaraf ym maes cofrestru tir a chyfraith tir a ffordd y Gofrestrfa Tir o weithio.
  • Bydd eich staff heb gymwysterau yn gallu delio â chyfarwyddiadau'n fwy hyderus, bydd llai o angen iddynt ofyn am gymorth a bydd eu boddhad yn eu gwaith yn cynyddu.
  • Bydd eich sefydliad yn elwa o safonau'n codi, bydd llai o angen anfon gwaith allan a bydd costau'n gostwn.

Achrediad ar gyfer y cwrs diploma

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y rhoddwyd cymeradwyaeth, o dan bwerau dyfarnu graddau Coleg y Gyfraith, i'r cwrs diploma gael ei achredu.

Cymeradwywyd y diploma ym mis Awst 2009 gan Fwrdd Academaidd Coleg y Gyfraith cyn i'r cwrs newydd ddechrau ym mis Medi 2009.

Dyfernir Diploma Graddedig i fyfyrwyr sy'n cwblhau dwy flwyddyn y cwrs â gwerth 80 credyd ar Lefel Anrhydedd.

Mae llawer o sefydliadau addysg uwch yn derbyn credyd gan sefydliadau eraill tuag at raglenni gradd, a gan fod Coleg y Gyfraith yn ddarparwr credydau'r DU a gydnabyddir yn llawn, gall fod yn bosibl defnyddio credydau'r diploma yn y modd hwn.

Dogfennaeth y cwrs

Dychwelwch y ffurflen gais a'r ffurflen monitro ethnig gyda'r ffi briodol.

Cofrestru

Cynhelir y cwrs rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn. Mae cyrsiau'n dechrau ym mis Medi'r flwyddyn honno.

Yn ystod y cyfnod cofrestru gallwch ofyn am ein pecyn gwybodaeth.

Ar adegau eraill, anfonwch ebost atom gyda'ch manylion ar gyfer ein rhestr bostio. Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth atoch pan fyddant ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cymwysterau yn qt@landregistry.gsi.gov.uk.

Cost - Cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2010

Cwrs Tystysgrif
£965

Cwrs Diploma
Blwyddyn 1 £795
Blwyddyn 2 £795

Digwyddiadau dewisol

Mae'r ddau gwrs yn cynnwys digwyddiadau astudio dewisol, y gost i'w thalu ar wahân ymlaen llaw.

Tystysgrif

  • Sefydlu (2 ddiwrnod) £240
  • Diwrnodau astudio (2 ddiwrnod ar wahân) £120 y diwrnod
  • Penwythnos astudio £240

Noder: Digwyddiad graddio - i'w gadarnhau ar ôl gwahoddiad.

Diploma

  • Blwyddyn 1
    • Sefydlu (1 diwrnod) £120
    • Diwrnodau astudio (2 sydd ar yr amserlen) £120 y diwrnod
    • Penwythnos astudio £240
  • Blwyddyn 2
    • Diwrnodau astudio (4 sydd ar yr amserlen) £120 y diwrnod

Noder: Digwyddiad graddio - i'w gadarnhau ar ôl gwahoddiad.

Cystyllau is-adran

Llyfryn y cymhwyster

Yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud

Yn ôl i Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir

Dysgodd cyfreithiwr dirprwyol Christine Knibb “lwyth o bethau” ar gwrs dwy flynedd y diploma.

“Mae wedi rhoi i mi wybodaeth fanwl o’r Ddeddf Cofrestru Tir, gan gynnwys meddiant gwrthgefn.”

"Mae'r cwrs yn werth yr arian ac roedd y penwythnosau astudio a'r diwrnodau adolygu'n ardderchog yn fy marn i."

Oes gennych chi gwestiwn?

Cysylltwch â ni.

Eleni yw'r cyfle olaf i ennill Tystysgrif neu Ddiploma Cymhwyster y Gofrestrfa Tir, felly cofrestrwch ac anfon y swm sy'n weddill erbyn 6 Awst 2010.