www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Addysg a Hyfforddiant

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Barn ein myfyrwyr

Dysgodd cyfreithiwr dirprwyol Christine Knibb “lwyth o bethau” ar gwrs dwy flynedd y diploma. “Mae wedi rhoi i mi wybodaeth fanwl o’r Ddeddf Cofrestru Tir, gan gynnwys meddiant gwrthgefn,” dywedodd Christine. "Mae'r cwrs yn werth yr arian ac roedd y penwythnosau astudio a'r diwrnodau adolygu'n ardderchog yn fy marn i."

Dechreuodd Deborah Colvill ddilyn cwrs y dystysgrif pan gafodd ei phenodi’n Rheolwr Ôl-gwblhau gyda’r cwmni cyfreithwyr Howes Percival. “Yn fy ngwaith bob dydd mae fy staff yn gofyn cwestiynau di‑baid,” dywedodd Deborah. "Rwy’n fwy hyderus am eu hateb nawr. Mae’r ‘beibl’ - llyfr y cwrs - wrth fy ymyl trwy’r amser.”

Mae 17 aeolod o staff Cymdeithas Adeiladu Nationwide wedi dilyn cwrs y dystysgrif . Meddai Sheila Bryan, Rheolwr Tîm yn y Ganolfan Gwasanaeth Morgais: “Doedd dim cymwysterau cyfreithiol gan y rhan fwyaf ohonom, felly penderfynwyd ei fod yn addas i ni,” meddai. “Mae’r cwrs wedi rhoi i ni wybodaeth fanwl ynghylch beth sydd ei angen arnom er mwyn darparu’n gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Dysgon ni lawer – roedd yn werthfawr iawn.”

Llyfryn y Cymhwyster

Barn ein myfyrwyr

Yn ôl i:
Y Cymhwyster mewn Cyfraith ac Ymarfer Cofrestru Tir