Cyfarwyddyd i gyfunddaliad
Cyflwyniad
Cyflwyniad
Diben y cyfarwyddyd hwn yw rhoi ychydig o wybodaeth am gefndir cyfunddaliad. Fe'i cynlluniwyd i roi dealltwriaeth sylfaenol ynghylch sut mae cyfunddaliad yn gweithio, y rheswm dros ei gyflwyno a sut mae'n wahanol i berchnogaeth rhydd-ddaliad a lesddaliad confensiynol.
Ni chynlluniwyd y cyfarwyddyd hwn i roi cyngor (cyfreithiol neu fel arall) ynghylch manteision neu anfanteision trosi i gynllun cyfunddaliad neu brynu i mewn i gynllun cyfunddaliad.
Mae unrhyw gyfeiriadau at "y Ddeddf" yn y cyfarwyddyd hwn yn cyfeirio at Ran 1 Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002 a ddaeth i rym ar 27 Medi 2004, ac eithrio adrannau 21(4) a (5).
Dylai gymryd oddeutu 30 munud i gwblhau'r modiwl.
I fynd trwy'r modiwl, defnyddiwch y cysylltau 'nesaf' a 'blaenorol' ar bob tudalen, neu mae'r cyswllt 'Cynnwys' yn eich galluogi i droi at adrannau unigol o'r cyfarwyddyd. Yn ogystal, mae geirfa o'r termau cyffredin a ddefnyddir ar gael ar ddiwedd y modiwl hwn.