www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Datblygiadau newydd Contents Previous Next

    Datblygiadau Newydd

    Caiff datblygiad newydd at ddibenion cydradd-ddaliad ei ddiffinio fel datblygiad preswyl a/neu fasnachol newydd lle y mae’r datblygwr yn gwneud cais i’w gofrestru’n gydradd-ddaliad. Yn ogystal, gall fod yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliol sy’n bodoli eisoes ac sy’n cael ei ddatblygu i fod yn eiddo preswyl a/neu fasnachol newydd, cyn ffatri yn cael ei throi'n fflatiau, er enghraifft.

    Cofrestrir datblygiadau newydd dan adran 7 y Ddeddf. Cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel cofrestru heb uned-ddalwyr. Defnyddir ffurflen CM1 i gyflwyno cais i’w gofrestru ond mae'n bosibl y bydd angen llenwi ffurflen FR1 hefyd os nad yw’r tir rhydd-ddaliol wedi’i gofrestru eisoes.

    I ddechrau, cofrestrir yr holl unedau a’r rhannau cyffredin yn enw’r datblygwr. Caiff y cydradd-ddaliad ei greu ar ôl cwblhau’r cais i gofrestru. Cofrestrir yr unedau unigol fel teitlau ar wahân hyd yn oed cyn iddynt gael eu gwerthu i’r uned-ddalwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y broses o gofrestru’r unedau llawer yn symlach oherwydd gellir defnyddio ffurflen TR1 pan werthir yr unedau unigol yn y pen draw. Cofrestrir y rhannau cyffredin mewn un teitl hefyd, sydd ar wahân i’r unedau. Seilir maint y rhannau cyffredin a’r unedau ar y datganiad cymuned cydradd-ddaliad.