Cyfnod trosiannol Gelwir y cyfnod rhwng y datblygwr yn cofrestru a gwerthu'r uned gyntaf y ‘cyfnod trosiannol’. Yn ystod y cyfnod hwn, mae adran 8(4) y Ddeddf yn galluogi’r datblygwr i ddewis peidio â pharhau â’r cais am deitl cydradd-ddaliol a gwneud cais i drosi’r cydradd-ddaliad yn ôl i statws rhydd-ddaliad cyffredin. Dim ond gyda datblygiadau newydd y cynigir y dewis hwn - h.y. heb uned-ddalwyr. Dim ond ar gyfer y tir cyfan y gellir gwneud cais fel hwn ac mae’n rhaid i’r ceisydd nodi ar y ffurflen gais (CM2) a yw’r i’r tir i barhau i gael ei gofrestru fel teitl rhannau cyffredin a theitlau unedau ar wahân, neu gael eu cyfuno mewn un teitl. Diwedd y cyfnod trosiannol Bydd y cyfnod trosiannol yn dod i ben pan fydd hawl gan rywun heblaw’r ceisydd am gofrestriad gael ei gofrestru fel perchennog yr ystad rydd-ddaliol un neu fwy o’r unedau (gweler a. 8(1) y Ddedf). Mae hyn yn golygu bod y cyfnod yn dod i ben ar ôl cwblhau trosglwyddo’r uned, nid pan gaiff ei chofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir. Ar ôl i’r cyfnod ddod i ben, bydd y rhannau cyffredin yn cael eu breinio yn awtomatig i’r gymdeithas cydradd-ddaliad. Dim ond y pryd hwnnw y daw’r hawliau a’r dyletswyddau a roddir ac a orfodir gan y datganiad cymuned cydradd-ddaliad i rym. Bydd yr unedau nas gwerthwyd yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn enw’r datblygwr nes y cânt eu gwerthu hefyd. Ar ddiwedd y cyfnod trosiannol, caiff unrhyw brydlesi eu terfynu’n awtomatig dan adran 7(3)(d) y Ddeddf a chaiff unrhyw arwystlon o ran y rhannau cyffredin eu terfynu’n awtomatig dan a.28(3) y Ddeddf. Rhaid rhyddhau unrhyw arwystlon sy’n effeithio ar yr unedau pan werthir yr unedau, gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol: ffurflen DS1, Hysbysiad Arwystl Electronig (END), neu Ryddhau Electronig (ED). Mae’r dudalen nesaf yn esbonio sut y mae trosi lesddaliad yn wahanol i ddatblygiad newydd. |