Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Dogfennau hanfodol Contents Previous Next

Dogfennau Hanfodol

Rhaid creu cydradd-ddaliad o deitl rhydd-ddaliol llwyr sydd wedi ei gofrestru. Ni all fodoli ar dir heb ei gofrestru. Os nad yw’r tir rhydd-ddaliol eisoes wedi’i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, rhaid gwneud cais i’w gofrestru.

Y rhagamod hanfodol arall er mwyn creu cydradd-ddaliad yw’r angen i greu cymdeithas cydradd-ddaliad.

Cymdeithas Cydradd-ddaliad

Mae cymdeithas cydradd-ddaliad yn gwmni preifat a ymgorfforwyd dan Ddeddf Cwmnïau 1985 ac a gyfyngir trwy warant yn hytrach na chyfranddaliadau.

Mae’r gymdeithas yn gyfrifol am gynnal a chadw’r rhannau cyffredin ac mae’n codi tâl gwasanaeth i dalu ei chostau. Bydd rheoliadau llym yn rheoli cyfarfodydd a busnes cyffredinol y gymdeithas. Mae uned-ddalwyr yn aelodau’r gymdeithas ac mae ganddynt hawliau pleidleisio yn ei chyfarfodydd.

Mae tair dogfen yn ffurfio cyfansoddiad y cydradd-ddaliad:

  • Memorandwm cyweithio’r gymdeithas cydradd-ddaliad;  
  • Erthyglau cyweithio’r gymdeithas cydradd-ddaliad; a’r
  • Datganiad cymuned cydradd-ddaliad.

Mae'r memorandwm a’r erthyglau cyweithio yn debyg i femorandwm ac erthyglau cyweithio unrhyw gwmni, ac mae’r datganiad cymuned cydradd-ddaliad yn nodi fframwaith rheoli a rheolau’r gymdeithas.

Yn ogystal, mae’r datganiad cymuned cydradd-ddaliad yn cynnwys diffiniad (yn ôl cynllun) o faint y cydradd-ddaliad a maint yr unedau, ac fe’i defnyddir gan y Gofrestrfa Tir i baratoi’r cynlluniau teitl ar gyfer y rhannau cyffredin a’r unedau.

Mae’r dudalen nesaf yn trafod strwythur cydradd-ddaliad.