www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gyfunddaliad Dogfennau hanfodol Contents Previous Next

    Dogfennau Hanfodol

    Rhaid creu cyfunddaliad o deitl rhydd-ddaliol llwyr cofrestredig. Ni all fodoli ar dir digofrestredig. Os nad yw'r tir rhydd-ddaliol eisoes wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, rhaid gwneud cais i'w gofrestru.

    Y rhagamod hanfodol arall er mwyn creu cyfundaliad yw'r angen i greu cymdeithas fundaliad.

    Cymdeithas Cyfunddaliad

    Mae cymdeithas cyfunddaliad yn gwmni preifat a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ac a gyfyngir trwy warant yn hytrach na chyfranddaliadau.

    Mae'r gymdeithas yn gyfrifol am gynnal a chadw'r rhannau cyffredin ac mae'n codi tâl gwasanaeth i dalu ei chostau. Bydd rheoliadau llym yn rheoli cyfarfodydd a busnes cyffredinol y gymdeithas. Mae uned-ddalwyr yn aelodau'r gymdeithas ac mae ganddynt hawliau pleidleisio yn ei chyfarfodydd.

    Mae tair dogfen yn ffurfio cyfansoddiad y cyfunddaliad:

    • Memorandwm cyweithio'r gymdeithas cyfundaliad;  
    • Erthyglau cyweithio'r gymdeithas cyfunddaliad; a'r
    • Datganiad cymuned cyfunddaliad.

    Mae'r memorandwm cyweithio yn ddogfen fer sy'n nodi bwriad y tanysgrifwyr i greu cwmni a dod yn aelodau. Oddi ar 1 Hydref 2009 nid oes gofyniad i'w anfon at y Gofrestrfa. Mae'r erthyglau cyweithio yn cynnwys datganiad mai amcan y cwmni yw bod yn gymdeithas cyfunddaliad a rheoli'r sefydliad mewnol ac achosion y gymdeithas, megis pwerau pleidleisio. Mae'r datganiad cymuned cyfunddaliad yn nodi fframwaith rheoli a rheolau'r gymdeithas.