Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Trosi rhydd-ddaliadau Contents Previous Next

Trosi rhydd-ddaliadau

Cofrestrir eiddo sydd wedi'i drosi o rydd-ddaliadau dan adran 9 y Ddeddf. Yn yr un modd â throsi lesddaliadau, cyfeirir at hyn yn y Ddeddf fel cofrestru gydag uned-ddalwyr.

Gallai'r math hwn o drosi godi, er enghraifft, pan fydd perchnogion eiddo rhydd-ddaliol sy’n bodoli eisoes yn gwneud cais am statws cydradd-ddaliad oherwydd bod ganddynt gyfleusterau cymunedol megis ffyrdd, llwybrau neu wasanaethau ac ati a rennir, y maent yn dymuno ffurfioli’r gwaith o’u rheoli. Byddai ystad fach adwyog o dai yn enghraifft nodweddiadol.

Dim ond gyda chytundeb pawb sydd â budd yn yr eiddo y gellir trosi i gydradd-ddaliad. I greu teitl cydradd-ddaliol ar gyfer y rhannau cyffredin, efallai y bydd yn rhaid i rai o’r perchnogion rhydd-ddaliad sy’n bodoli eisoes, neu bob un ohonynt, roi’r gorau i rywfaint o’u teitl, megis pan fyddant yn berchen ar ran o ffordd yr ystad, neu efallai y bydd angen iddynt brynu tir gan rywun arall i greu’r rhannau cyffredin. Yn yr achosion hyn, bydd angen sicrhau cytundeb a chydweithrediad yr holl rai yr effeithir arnynt.

Yn yr un modd ag sy’n digwydd gyda’r ddau fath arall o gydradd-ddaliad, defnyddir y datganiad cymuned cydradd-ddaliad gan y Gofrestrfa Tir i baratoi’r teitlau cofrestredig angenrheidiol. Caiff y teitlau rhydd-ddaliol cofrestredig sy’n bodoli eisoes o fewn y cydradd-ddaliad eu diwygio i gyfeirio at y tir sydd bellach yn rhan o’r cydradd-ddaliad.

Oherwydd y ceir uned-ddalwyr sy’n bodoli eisoes, ni cheir cyfnod trosiannol wrth drosi rhydd-ddaliadau.  

Mae’r dudalen nesaf yn trafod sut y gellir terfynu cydradd-ddaliad.