Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad
Geirfa
Geirfa
Cyfnod Trosiannol
Y cyfnod rhwng cofrestru’r ystad rydd-ddaliol yn y tir fel ystad rydd-ddaliol mewn cydradd-ddaliad a’r adeg pan fydd gan rywun arall yr hawl i gael ei gofrestru’n berchennog un neu fwy o’r unedau cydradd-ddaliol, ond nid pob un ohonynt. Dim ond pan geir cais i gofrestru heb uned-ddalwyr y bydd cyfnod trosiannol.
Cymdeithas Cydradd-ddaliad
Cwmni cyfyngedig preifat a ymgorfforwyd dan Ddeddf Cwmnïau 1985, a gyfyngir trwy warant gyda’r amcan penodol o weithredu swyddogaethau cymdeithas cydradd-ddaliad o ran tir wedi’i ddiffinio. Mae’r gymdeithas yn gyfrifol am gynnal a chadw’r rhannau cyffredin ac mae’n codi tâl gwasanaeth (asesiad cydradd-ddaliad) i dalu ei chostau. Mae gan y gymdeithas a’i haelodau y grym i orfodi’r ymrwymiadau yn y cydradd-ddaliad; h.y. gall aelodau orfodi’n uniongyrchol yn erbyn aelodau eraill.
Datganid Cymuned Cydradd-ddaliad
Y ddogfen sy’n diffinio yn ôl cynllun a disgrifiad, maint yr unedau cydradd-ddaliol ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau a dyletswyddau’r gymdeithas cydradd-ddaliad a’r uned-ddalwyr.
Deddf
Mae’r Ddeddf yn golygu Rhan 1 Deddf Cydradd-ddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002
Erthyglau Cyweithio
Mae’r rhain yn rheoleiddio trefniadaeth fewnol a busnes y gymdeithas cydradd-ddaliad, megis pwerau pleidleisio a’r trefniadau i alw cyfarfodydd. Maent hefyd yn pennu sut y gweithredir y pŵer a roddwyd i’r gymdeithas gan y memorandwm cyweithio. Os ceir anghysondeb rhwng y memorandwm a’r erthyglau cyweithio, y memorandwm fydd yn trechu ac mae unrhyw addasiad i'r erthyglau sy’n gwrthdaro â’r memorandwm yn ddi-rym.
Memorandwm Cyweithio
Y ddogfen sy’n cynnwys enw’r gymdeithas, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, amcanion y gymdeithas a’i phwerau. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n mynnu y dylid defnyddio incwm y gymdeithas i gyflawni amcanion y gymdeithas (ac eithrio wrth derfynu), mae’n nodi bod atebolrwydd ei haelodau’n gyfyngedig ac mae’n nodi cyfanswm y warant.
Rhannau Cyffredin
Pob rhan o’r cydradd-ddaliad nas dangosir yn uned gydradd-ddaliol yn y datganiad cymuned cydradd-ddaliad ar hyn o bryd. Mae’r gymdeithas cydradd-ddaliad yn berchen ar y rhain.
Rheolau
Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004
Rheoliadau
Rheoliadau Cydradd-ddaliad 2004
Uned Gydradd-ddaliol
Un o ddau ddarn o dir o leiaf yn y cydradd-ddaliad, y caiff eu maint eu diffinio gan y datganiad cymuned cydradd-ddaliad. Gall uned, er enghraifft, gynnwys fflat, man storio biniau, garej neu uned ddiwydiannol.
Uned-ddaliwr
Rhywun sydd â’r hawl i’w gofrestru fel perchennog yr ystad rydd-ddaliol mewn uned gydradd-ddaliol. Gall fod yn unig berchennog neu’n berchennog ar y cyd – mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â nifer y perchnogion cofrestredig yr un fath ag y maent ar gyfer unrhyw ystad arall mewn tir.