www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Trosi les-ddaliadau Contents Previous Next

    Trosi les-ddaliadau

    Mae trosi lesddaliadau yn wahanol i ddatblygiadau newydd oherwydd bod ganddynt uned-ddalwyr eisoes, h.y. lesddeiliaid sy’n bodoli eisoes. Cofrestrir eiddo sydd wedi'i drosi o lesddaliadau dan adran 9 y Ddeddf a chyfeirir atynt yn y Ddeddf fel cofrestru ‘gydag uned-ddalwyr’.

    Dim ond gyda chytundeb y landlord (y rhydd-ddeiliad) a phawb sydd â budd yn yr eiddo gan gynnwys y rhoddwyr benthyg, y gellir trosi i gydradd-ddaliad. Wrth drosi i gydradd-ddaliad, caiff yr holl brydlesi sy’n bodoli eisoes eu terfynu dan adran 9(3)(f) y Ddeddf.

    Ar ôl cytuno i drosi, cofrestrir y gymdeithas cydradd-ddaliad fel perchennog y rhannau cyffredin yn syth a bydd yr uned-ddalwyr yn berchnogion eu hunedau priodol, ond gyda theitl rhydd-ddaliol bellach. Caiff y teitlau prydlesol cofrestredig eu cau.

    Gellir cyfuno trosi lesddaliad gyda throsi rhydd-ddaliad pan fydd dau fath o eiddo (lesddaliad a rhydd-ddaliad) yn cyfuno i ffurfio cydradd-ddaliad newydd. Yn yr achosion hyn, rhaid bodloni gofynion pob trosiant ar gyfer yr eiddo priodol.

    Seilir maint y rhannau cyffredin a’r unedau ar y datganiad cymuned cydradd-ddaliad a chaiff y cynlluniau teitl eu paratoi ar gyfer pob un.

    Oherwydd y ceir uned-ddalwyr eisoes, ni cheir cyfnod trosiannol wrth drosi lesddaliad.

    Mae’r dudalen nesaf yn trafod trosi rhydd-ddaliadau.