Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Cydsyniadau Contents Previous Next

Cydsyniadau


Cydsyniadau

Mae’r Ddeddf a’r Rheoliadau’n darparu na ellir gwneud cais i gofrestru rhydd-ddaliad cydradd-ddaliol heb gael cydysniad y canlynol sydd â budd (pan fo hynny’n briodol):

  • perchennog cofrestredig yr ystad rydd-ddaliol ar gyfer y tir cyfan neu ran o’r tir;
  • perchennog cofrestredig ystad brydlesol ar gyfer y tir cyfan neu ran o’r tir a roddwyd am gyfnod o dros 21 o flynyddoedd;
  • perchennog ystad unrhyw ystad rydd-ddaliol heb ei chofrestru ar gyfer y tir cyfan neu ran o’r tir;
  • perchennog ystad unrhyw ystad brydlesol heb ei chofrestru ar gyfer y tir cyfan neu ran o’r tir a roddwyd am gyfnod o dros 21 o flynyddoedd;
  • perchennog arwystl a warchodir gan gofnod ar y gofrestr ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir;
  • perchennog unrhyw forgais, arwystl neu hawlrwym i sicrhau arian neu werth yr arian ar gyfer y cyfan neu ran o unrhyw dir heb ei gofrestru a gynhwysir yn y cais;
  • deiliaid prydles a roddwyd am gyfnod heb fod dros 21 o flynyddoedd a fydd yn cael ei dileu dan is-adran 7(3)(d) neu 9(3)(f) y Ddeddf oni bai bod gan y lesddeiliad hawl i gael prydles newydd – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cydradd-ddaliad am ragor o fanylion.

Os yw’r cydsyniad yn ymwneud â budd heb ei gofrestru neu’n gysylltiedig â rhybudd, rhybuddiad neu gyfyngiad yn unig, bydd angen tystiolaeth o hawl yr unigolyn i roi cydsyniad hefyd (fel arfer ar ffurf Tystysgrif Trawsgludwr).

Os yw’r cais i gofrestru gydag uned-ddalwyr, rhaid cynnwys tystiolaeth arferol o ryddhau pob arwystl cofrestredig ar y teitlau prydlesol.Fel arall, bydd angen gweithred arwystl amnewidiol.