www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gyfunddaliad Cydsyniadau Contents Previous Next

    Cydsyniadau


    Cydsyniadau

    Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau'n darparu na ellir gwneud cais i gofrestru rhydd-ddaliad cyfunddaliol heb gael cydysniad y canlynol sydd â budd (pan fo hynny'n briodol):

    • perchennog cofrestredig yr ystad rydd-ddaliol ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir;
    • perchennog cofrestredig ystad brydlesol ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir a roddwyd am gyfnod o dros 21 o flynyddoedd;
    • perchennog ystad unrhyw ystad rydd-ddaliol heb ei chofrestru ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir;
    • perchennog ystad unrhyw ystad brydlesol heb ei chofrestru ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir a roddwyd am gyfnod o dros 21 o flynyddoedd;
    • perchennog arwystl a warchodir gan gofnod ar y gofrestr ar gyfer y tir cyfan neu ran o'r tir;
    • perchennog unrhyw forgais, arwystl neu hawlrwym i sicrhau arian neu werth yr arian ar gyfer y cyfan neu ran o unrhyw dir heb ei gofrestru a gynhwysir yn y cais;
    • deiliaid prydles a roddwyd am gyfnod heb fod dros 21 o flynyddoedd a fydd yn cael ei dileu dan is-adran 7(3)(d) neu 9(3)(f) y Ddeddf oni bai bod gan y lesddeiliad hawl i gael prydles newydd – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cyfunddaliad am ragor o fanylion.

    Os yw'r cydsyniad yn ymwneud â budd heb ei gofrestru neu'n gysylltiedig â rhybudd, rhybuddiad neu gyfyngiad yn unig, bydd angen tystiolaeth o hawl yr unigolyn i roi cydsyniad hefyd (fel arfer ar ffurf Tystysgrif Trawsgludwr).

    Os yw'r cais i gofrestru gydag uned-ddalwyr, rhaid cynnwys tystiolaeth arferol o ryddhau pob arwystl cofrestredig ar y teitlau prydlesol. Fel arall, bydd angen gweithred arwystl amnewidiol.