www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Copïau swyddogol a chwiliadau Contents Previous Next

    Copïau swyddogol a chwiliadau

    Copïau swyddogol

    Gellir gwneud cais am gopïau o deitl y rhannau cyffredin neu deitl uned yn y ffordd arferol.

    Teitl y rhannau cyffredin:

    Dan ddarpariaeth y Rheolau, rhaid cynnwys y geiriau canlynol mewn cais am gopïau swyddogol o deitl rhannu cyffredin ym mhanel 9 ffurflen OC1:

    "copi(copïau) swyddogol y gofrestr a chynllun teitl y rhannau cyffredin mewn datblygiad cyfun-ddaliol".

    Os yw'r cais am gopi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl y rhannau cyffredin neu'r dystysgrif archwilio yn ffurflen C1, bydd y Gofrestrfa Tir bob amser yn darparu copi swyddogol o'r gofrestr a chopi swyddogol o'r cynllun teitl neu dystysgrif C1. Fodd bynnag, dim ond un ffi arbennig a godir.

    Teitl uned:

    Gyda theitl uned, dim ond yr hyn y gwnaethpwyd cais amdano a gyhoeddir gan y Gofrestrfa Tir. Mae'r ffi yr un fath â'r un a godir ar gyfer unrhyw gais arferol am gopi swyddfa.

    Dogfennau eraill:

    Gall unrhyw un wneud cais am gopïau swyddogol o'r fersiynau presennol o ddogfennau cyfun-ddaliad allweddol (e.e. y datganiad cymuned cyfun-ddaliad), dim ond iddynt dalu'r ffi briodol. Gellir cael copïau o fersiynau blaenorol o'r dogfennau allweddol hefyd, ond dylid defnyddio ffurflen OC2, a'i hanfon naill ai drwy'r post neu DX.

    Chwiliadau swyddogol

    Dylid cyflwyno chwiliadau swyddogol yn erbyn teitlau cyfun-ddaliol yn yr un modd ag y gwneir gyda theitlau eraill. Bydd y canlyniad a roddir gan y Gofrestrfa Tir yr un fath hefyd, yn ogystal â'r cyfnod blaenoriaeth a roddir gan y chwiliad.