Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Chwiliadau o'r map mynegai Contents Previous Next

Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)

Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)

Mae’r angen i gyflwyno cynllun gyda chais SIM yr un fath ag y mae ar gyfer unrhyw gais SIM arall.

Rhannau Cyffredin:

Mewn cais SIM ar gyfer y tir a fydd yn ffurfio’r rhannau cyffredin, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu’r wybodaeth ganlynol:

  • rhif teitl y rhannau cyffredin
  • rhifau teitl yr holl unedau yn y datblygiad cydradd-ddaliol
  • rhif(-au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn y cydradd-ddaliad, e.e. lesddaliad a phroffidiau
  • unrhyw deitl rhydd-ddaliol neu brydlesol arall nad yw’n rhan o’r datblygiad cydradd-ddaliol ond sy’n cael ei gynnwys o fewn ei derfynau daearyddol, er enghraifft rheilffyrdd tanddaearol, gweithfeydd cloddio ac ati.

SYLWER 1:  Mae’r canlyniad yn cynnwys rhifau teitl yr unedau oherwydd eu bod yn rhan annatod o'r cydradd-ddaliad.

SYLWER 2: Pan fydd nifer y teitlau a ddatgelir ar yr SIM yn fwy na 10, codir ffioedd ychwanegol (h.y. ar gyfer pob teitl a ddatgelir dros y deg teitl cyntaf). Fodd bynnag, gellir cyfyngu’r canlyniad ac osgoi’r ffi ychwanegol os yw’r cais yn gwneud cais penodol i eithrio teitlau’r unedau o'r canlyniad.

Teitl unedau:

Mewn cais SIM ar gyfer tir sy’n uned mewn datblygiad cydradd-ddaliol, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu:

  • rhif teitl yr uned honno; a  
  • rhif teitl y tir sy’n rhannau cyffredin.  
  • rhif(-au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn terfynau’r uned, e.e. lesddaliad a phroffidiau.