www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Chwiliadau o'r map mynegai Contents Previous Next

    Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)

    Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)

    Mae'r angen i gyflwyno cynllun gyda chais SIM yr un fath ag y mae ar gyfer unrhyw gais SIM arall.

    Rhannau Cyffredin:

    Mewn cais SIM ar gyfer y tir a fydd yn ffurfio'r rhannau cyffredin, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu'r wybodaeth ganlynol:

    • rhif teitl y rhannau cyffredin
    • rhifau teitl yr holl unedau yn y datblygiad cyfun-ddaliol
    • rhif(au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn y cyfun-ddaliad, e.e. lesddaliad a phroffidiau
    • unrhyw deitl rhydd-ddaliol neu brydlesol arall nad yw'n rhan o'r datblygiad cyfun-ddaliol ond sy'n cael ei gynnwys o fewn ei derfynau daearyddol, er enghraifft rheilffyrdd tanddaearol, gweithfeydd cloddio ac ati.

    DS 1:  Mae'r canlyniad yn cynnwys rhifau teitl yr unedau oherwydd eu bod yn rhan annatod o'r cyfun-ddaliad.

    DS 2: Codir ffïoedd SIM arferol ar gyfer chwiliad o'r map mynegai mewn perthynas â theitlau cyfun-ddaliadol.  Fodd bynnag, gellir cyfyngu'r canlyniad ac osgoi'r ffi ychwanegol os yw'r cais yn gwneud cais penodol i eithrio teitlau'r unedau o'r canlyniad.

    Teitl Unedau:

    Mewn cais SIM ar gyfer tir sy'n uned mewn datblygiad cyfun-ddaliol, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu:

    • rhif teitl yr uned honno; a  
    • rhif teitl y tir sy'n rhannau cyffredin.  
    • rhif(au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn terfynau'r uned, e.e. lesddaliad a phroffidiau.