Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Cofrestru Contents Previous Next

Cofrestru yn y Gofrestrfa Tir

Os nad yw’r tir eisoes wedi’i gofrestru gyda theitl rhydd-ddaliol, rhaid ei gofrestru’n gyntaf. Rhaid cyflwyno ffurflen gais FR1 ynghyd â’r dystiolaeth arferol o deitl rhydd-ddaliol a’r ffi gofrestru briodol. Gellir gwneud cais i gofrestru’r tir fel rhydd-ddaliad cydradd-ddaliol ar yr un pryd ag y cyflwynir cais FR1, ond bydd yn rhaid talu ffi ychwanegol i gofrestru’r cydradd-ddaliad.

Os yw’r rhydd-ddaliad wedi’i gofrestru eisoes ond mae’n destun cais sy’n aros i’w brosesu, megis trosglwyddiad o ran neu ddeliad â’r cyfan o deitl, wedi’i gyflwyno gyda ffurflen AP1, gellir gwneud y cais am gydradd-ddaliad ar yr un pryd. Bydd yn rhaid talu ffi ar wahân ar gyfer y cais cydradd-ddaliad.