Ffurflenni Rhaid defnyddio’r ffurflenni canlynol wrth wneud ceisiadau: - CM1 – Cais i gofrestru ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol
- CM2 – Cais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol
- CM3 – Cais i gofrestru diwygio datganiad cymuned cydradd-ddaliad a/neu newid memorandwm ac erthyglau cyweithio
- CM4 – Cais i ychwanegu tir at gofrestriad cydradd-ddaliad
- CM5 – Cais i derfynu cofrestriad cydradd-ddaliad
- CM6 – Cais i gofrestru cymdeithas cydradd-ddaliad olynol
- COE – Hysbysiad o newid maint uned gydradd-ddaliol gydag arwystl cofrestredig arni
- CON1 – Cydsyniad i gofrestru tir fel tir cydradd-ddaliol
- CON2 – Cydsyniad â chais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol
- COV - Cais i gofrestru gydag uned-ddalwyr, ac
- SR1 – Rhybudd o ildio hawl(iau) datblygu.
Mae copïau o'r ffurflenni unigol ar gael o wefan y Gofrestrfa Tir. Ffioedd Mae Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir (Newidiad) 2004 yn pennu’r ffi ar gyfer cofrestriadau cydradd-ddaliad. Amlinellir manylion y ffioedd cofrestru i’w talu yng Nghyfarwyddyd 60 - Cydradd-ddaliad. |