Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Dogfennau ategol Contents Previous Next

Dogfennau ategol

Dogfennau ategol

Rhaid cyflwyno’r dogfennau ychwanegol canlynol hefyd:

  • Tystysgrif ymgorffori y gymdeithas cydradd-ddaliad neu unrhyw dystysgrif a newidiwyd
  • Copi ardystiedig o'r memorandwm a’r erthyglau cyweithio
  • Dau gopi ardystiedig o’r datganiad cymuned cydradd-ddaliad
  • Y cydsyniad angenrheidiol (ffurflen CON1)  
  • Unrhyw orchmynion llys yn lle cydsyniad
  • Ffurflen CON2 pan wneir cais “peidio â bod”
  • Tystysgrif cyfarwyddwyr  
  • Datganiad statudol

Pan gaiff ei chynnwys gyda chais cychwynnol am gydradd-ddaliad, mae’r “dystysgrif cyfarwyddwyr” yn ddatganiad:

  • bod y memorandwm a’r erthyglau yn cydymffurfio â’r Rheoliadau
  • bod y DCC yn bodloni gofynion y Ddeddf
  • nad yw’r gymdeithas wedi masnachu ac nad oes ganddi unrhyw atebolrwydd nad yw wedi ei ryddhau a
  • bod yr holl dir yn y cais yn gallu bod yn dir cydradd-ddaliol.

Rhaid i’r “datganiad statudol”

  • restru pob cydsyniad a sicrhawyd, neu’r gorchmynion llys sy’n esgusodi rhag cael cydsyniad  
  • cadarnhau nad oes angen unrhyw gydsyniad arall
  • cadarnhau nad yw cyfnod unrhyw gydsyniad wedi dod i ben neu nad oes unrhyw un wedi cael ei dynnu’n ôl, a chadarnhau os yw cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau, y bodlonwyd yr holl amodau’n llawn a
  • chadarnhau nad oes unrhyw gyfyngiad sy’n ymddangos ar y gofrestr yn gwarchod budd y mae angen sicrhau cydsyniad y deiliad yn ei gylch; neu os yw’n gwarchod budd o’r fath, bod y cydsyniad priodol wedi’i sicrhau.

Os yw’r cais yn cynnwys (yn unol â rhan 22 y Ddeddf) dileu arwystl rhan o uned sy’n destun cofnod ar y gofrestr teitl, rhaid cynnwys datganiadau ychwanegol yn y datganiad. Gellir gweld manylion am y datganiadau ychwanegol trwy droi at Gyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cydradd-ddaliad.

Mae’r dudalen nesaf yn ystyried y cydsyniadau yn fanylach a’r gymeradwyaeth ar gyfer y cynllun cydradd-ddaliad.