www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Dogfennau ategol Contents Previous Next

    Dogfennau ategol

    Dogfennau ategol

    Rhaid cyflwyno'r dogfennau ychwanegol canlynol hefyd:

    • Tystysgrif ymgorffori y gymdeithas cyfun-ddaliad neu unrhyw dystysgrif a newidiwyd
    • Copi ardystiedig o'r erthyglau cyweithio
    • Dau gopi ardystiedig o'r datganiad cymuned cyfun-ddaliad
    • Y cydsyniad angenrheidiol (ffurflen CON1)  
    • Unrhyw orchmynion llys yn lle cydsyniad
    • Ffurflen CON2 pan wneir cais "peidio â bod"
    • Tystysgrif cyfarwyddwyr  
    • Datganiad statudol

    Pan gaiff ei chynnwys gyda chais cychwynnol am gyfun-ddaliad, mae'r "dystysgrif cyfarwyddwyr" yn ddatganiad:

    • bod yr erthyglau yn cydymffurfio â'r Rheoliadau
    • bod y DCC yn bodloni gofynion y Ddeddf
    • nad yw'r gymdeithas wedi masnachu ac nad oes ganddi unrhyw atebolrwydd nad yw wedi ei ryddhau a
    • bod yr holl dir yn y cais yn gallu bod yn dir cyfun-ddaliol.

    Rhaid i'r "datganiad statudol"

    • restru pob cydsyniad a sicrhawyd, neu'r gorchmynion llys sy'n esgusodi rhag cael cydsyniad  
    • cadarnhau nad oes angen unrhyw gydsyniad arall
    • cadarnhau nad yw cyfnod unrhyw gydsyniad wedi dod i ben neu nad oes unrhyw un wedi cael ei dynnu'n ôl,
    • cadarnhau os yw cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau, y bodlonwyd yr holl amodau'n llawn a
    • chadarnhau nad oes unrhyw gyfyngiad sy'n ymddangos ar y gofrestr yn gwarchod budd y mae angen sicrhau cydsyniad y deiliad yn ei gylch, neu os yw'n gwarchod budd o'r fath, bod y cydsyniad priodol wedi'i sicrhau.

    Os yw'r cais yn cynnwys dileu arwystl rhan o uned sy'n destun cofnod ar y gofrestr teitl, yn unol â rhan 22 y Ddeddf, rhaid cynnwys datganiadau ychwanegol yn y datganiad. Gellir gweld manylion am y datganiadau ychwanegol trwy droi at Gyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cyfun-ddaliad.

    Mae'r dudalen nesaf yn ystyried y cydsyniadau yn fanylach a'r gymeradwyaeth ar gyfer y cynllun cyfun-ddaliad.