Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad Strwythur Contents Previous Next

Strwythur

Rhaid i gydradd-ddaliad gynnwys y rhannau cyffredin ac o leiaf ddwy uned. Gall yr unedau fod yn unedau hollol ar wahân, yn unedau cysylltiedig neu’n unedau mewn un strwythur. Mewn egwyddor, gall y cydradd-ddaliad fod o unrhyw faint.

Ni all y cydradd-ddaliad gynnwys:

  • rhydd-ddaliad ansgwar
  • tir amaethyddol  
  • teitl digwyddiadol (h.y. teitl sy’n debygol dan statudau penodol i gael ei ddychwelyd i rywun ac eithrio’r perchennog cofrestredig h.y. rhai ysgolion nas defnyddir mwyach).

Gellir creu cydradd-ddaliad at ddefnydd masnachol neu breswyl, neu gyfuniad o’r ddau. Gall y cydradd-ddaliad gynnwys mwy nag un darn o dir, er enghraifft, gallent fod ar ddwy ochr i’r ffordd ond os na cheir ymrwymiadau cyffredin neu gyfleusterau y mae’r ddau ddarn o dir yn eu rhannu, ni fyddai un cydradd-ddaliad yn briodol.

Unwaith y bydd yn weithredol, bydd cydradd-ddaliad yn parhau fel hyn nes y caiff ei derfynu yn unol â’r Ddeddf.

Gall cydradd-ddaliad ddeillio o dair sefyllfa:

  • datblygiadau newydd
  • trosi lesddaliadau
  • trosi rhydd-ddaliadau

Ewch i'r dudalen nesaf i fwrw golwg fanylach ar y rhain.