Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad
Crynodeb
Crynodeb
Cyffredinol:
- Mae cydradd-ddaliad yn wahanol i deitl rhydd-ddaliol traddodiadol oherwydd ei fod yn cyfuno perchnogaeth rhydd-ddaliad uned mewn datblygiad, gydag aelodaeth o gymdeithas cydradd-ddaliad. Mae'r gymdeithas yn berchen ar ac yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw’r rhannau cyffredin yn y datblygiad.
- Ceir tri math o gydradd-ddaliad – (1) Datblygiadau newydd (2) rhai sydd wedi eu trosi o lesddaliad a (3) rhai sydd wedi eu trosi o rydd-ddaliad.
Strwythur:
- Gellir creu cydradd-ddaliad o dir rhydd-ddaliol llwyr sydd wedi ei gofrestru yn unig.
- Gellir cynnwys mwy nag un darn o dir yn y cydradd-ddaliad, megis ar ddwy ochr y ffordd, ond rhaid i’r ddau ddarn o dir rannu cyfleusterau neu ymrwymiadau cyffredin.
- Rhaid iddo gynnwys o leiaf ddwy uned a’r rhannau cyffredin.
- Gellir creu cydradd-ddaliad at ddefnydd masnachol neu breswyl neu fel cyfuniad o’r ddau.
Ni chaiff y cydradd-ddaliad gynnwys:
- rhydd-ddaliad ansgwar
- tir amaethyddol
- teitl digwyddiadol (h.y. teitl sy’n debygol dan statudau penodol i gael ei ddychwelyd i rywun ac eithrio’r perchennog cofrestredig h.y. rhai ysgolion nas defnyddir mwyach).
Mae’r dogfennau hanfodol fel a ganlyn:
- memorandwm cyweithio y gymdeithas cydradd-ddaliad
- erthyglau cyweithio y gymdeithas cydradd-ddaliad
- datganiad cymuned cydradd-ddaliad.
Ffurflenni’r Gofrestrfa Tir:
- CM1 – Cais i gofrestru ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol
- CM2 – Cais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol
- CM3 – Cais i gofrestru diwygio datganiad cymuned cydradd-ddaliad a/neu newid memorandwm ac erthyglau cyweithio
- CM4 – Cais i ychwanegu tir at gofrestriad cydradd-ddaliad
- CM5 – Cais i derfynu cofrestriad cydradd-ddaliad
- CM6 – Cais i gofrestru cymdeithas cydradd-ddaliad olynol
- COE – Hysbysiad o newid maint uned gydradd-ddaliol gydag arwystl cofrestredig arni
- COV – Cais i gofrestru gydag uned-ddalwyr
- CON1 – Cydsynio â chofrestru tir fel tir cydradd-ddaliol
- CON2 – Cydsynio â chais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol, a
- SR1 – Rhybudd o ildio hawl(iau) datblygu
Gellir llwytho copïau o’r ffurflenni unigol i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir.
Dogfennau gofynnol eraill:
- Ffurflen FR1 y Gofrestrfa Tir os nad yw’r tir wedi’i gofrestru eisoes
- Ffurflen AP1 y Gofrestrfa Tir os yw hynny’n briodol
- Tystysgrif ymgorffori y gymdeithas cydradd-ddaliad
- Tystysgrif cyfarwyddwyr
- Unrhyw gydsyniadau angenrheidiol (wedi’u cynnwys ar ffurflenni CON1)
- Datganiad statudol
- Gorchmynion llys – os yw'n briodol.
Darllen pellach
Gellir llwytho Cyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cydradd-ddaliadi i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir neu gellir cael copi ohono yn rhad ac am ddim o unrhyw un o swyddfeydd y GofrestrfaTir.
Mae copïau o'r Ddeddf, y Rheolau a’r Rheoliadau ar gael ar-lein.
I gael mwy o wybodaeth am dermau a ddefnyddir yn y modiwl hwn darllenwch yr eirfa.
Dyma ddiwedd y cyfarwyddyd.