www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gyfunddaliad Crynodeb Contents Previous Next

    Crynodeb

    Cyffredinol:

    • Mae cyfunddaliad yn wahanol i deitl rhydd-ddaliol traddodiadol oherwydd ei fod yn cyfuno perchnogaeth rhydd-ddaliad uned mewn datblygiad, gydag aelodaeth o gymdeithas cyfunddaliad. Mae'r gymdeithas yn berchen ar ac yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw'r rhannau cyffredin yn y datblygiad.
    • Ceir tri math o gyfunddaliad – (1) Datblygiadau newydd (2) rhai sydd wedi eu trosi o lesddaliad a (3) rhai sydd wedi eu trosi o rydd-ddaliad.

    Strwythur:

    • Gellir creu cyfunddaliad o dir rhydd-ddaliol llwyr sydd wedi ei gofrestru yn unig.
    • Gellir cynnwys mwy nag un darn o dir yn y cyfunddaliad, megis ar ddwy ochr y ffordd, ond rhaid i'r ddau ddarn o dir rannu cyfleusterau neu ymrwymiadau cyffredin.
    • Rhaid iddo gynnwys o leiaf ddwy uned a'r rhannau cyffredin.  
    • Gellir creu cyfunddaliad at ddefnydd masnachol neu breswyl neu fel cyfuniad o'r ddau.

    Ni chaiff y cyfunddaliad gynnwys:

    • rhydd-ddaliad ansgwar  
    • tir amaethyddol
    • teitl digwyddiadol (h.y. teitl sy'n debygol dan statudau penodol i gael ei ddychwelyd i rywun ac eithrio'r perchennog cofrestredig h.y. rhai ysgolion nas defnyddir mwyach).

    Mae'r dogfennau hanfodol fel a ganlyn:

    • memorandwm cyweithio y gymdeithas cyfunddaliad
    • datganiad cymuned cyfunddaliad.

    Ffurflenni'r Gofrestrfa Tir:

    • CM1 – Cais i gofrestru ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliol  
    • CM2 – Cais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol  
    • CM3 – Cais i gofrestru diwygio datganiad cymuned cyfunddaliad a/neu newid memorandwm ac erthyglau cyweithio  
    • CM4 – Cais i ychwanegu tir at gofrestriad cyfunddaliad  
    • CM5 – Cais i derfynu cofrestriad cyfunddaliad  
    • CM6 – Cais i gofrestru cymdeithas cyfunddaliad olynol
    • COE – Hysbysiad o newid maint uned gyfunddaliol gydag arwystl cofrestredig arni
    • COV – Cais i gofrestru gydag uned-ddalwyr
    • CON1 – Cydsynio â chofrestru tir fel tir cyfunddaliol
    • CON2 – Cydsynio â chais bod yr ystad rydd-ddaliol yn peidio â bod yn gofrestredig fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliol yn ystod y cyfnod trosiannol, a
    • SR1 – Rhybudd o ildio hawl(iau) datblygu

    Gellir llwytho copïau o'r ffurflenni unigol i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir.

    Dogfennau gofynnol eraill:

    • Ffurflen FR1 y Gofrestrfa Tir os nad yw'r tir wedi'i gofrestru eisoes
    • Ffurflen AP1 y Gofrestrfa Tir os yw hynny'n briodol
    • Tystysgrif ymgorffori y gymdeithas cyfunddaliad
    • Tystysgrif cyfarwyddwyr
    • Unrhyw gydsyniadau angenrheidiol (wedi'u cynnwys ar ffurflenni CON1)
    • Datganiad statudol  
    • Gorchmynion llys – os yw'n briodol.

    Darllen pellach

    Gellir llwytho Cyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cyfunddaliad i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir neu gellir cael copi ohono yn rhad ac am ddim o unrhyw un o swyddfeydd y Gofrestrfa Tir.

    Mae copïau o'r Ddeddf, y Rheolau a'r Rheoliadau ar gael ar-lein.

    I gael mwy o wybodaeth am dermau a ddefnyddir yn y trosolwg hwn darllenwch yr eirfa.

    Dyma ddiwedd y cyfarwyddyd.