Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad
Terfynu
Terfynu ffurfiol
Caiff y broses o derfynu cydradd-ddaliad yn ffurfiol ei rheoleiddio gan y Ddeddf, sy’n nodi darpariaethau manwl iawn ynghylch pryd y gall hyn ddigwydd. Yn fyr, gellir terfynu cydradd-ddaliad trwy:
- derfynu gwirfoddol pan fydd aelodau cydradd-ddaliad yn pleidleisio i derfynu’r cydradd-ddaliad (is-adrannau 43-49 y Ddeddf)
- terfynu gan y Llys gyda gorchymyn olyniaeth neu heb un, pan ddaw’r gymdeithas cydradd-ddaliad yn ansolfent (is-adrannau 50-54 y Ddeddf), neu
- Orchymyn Llys dan adran 55 y Ddeddf.
Ffyrdd eraill y gall y cydradd-ddaliad ddod i ben
Yn ogystal, gall cydradd-ddaliad ddod i ben mewn ffyrdd amgen i derfynu ffurfiol – er enghraifft dan adran 6 y Ddeddf, gall y Llys ganiatáu datganiad na ddylid bod wedi cofrestru’r ystad rydd-ddaliol fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cydradd-ddaliol.
Ceir mwy o wybodaeth am derfynu a ffyrdd eraill y gall cydradd-ddaliad ddod i ben yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 60 - Cydradd-ddaliad.
Mae’r dudalen nesaf yn trafod sut y gellir newid y dogfennau ynghylch y strwythur a sut y gellir ychwanegu tir at y cydradd-ddaliad.
Terfynu