Cyfarwyddyd i gyfunddaliad
Beth yw cyfunddaliad
Beth yw cyfunddaliad
Mae yna ddau brif fath o ystad mewn tir yng Nghymru a Lloegr: rhydd-ddaliad a lesddaliad. Nid ystad newydd yw Cyfunddaliad, ond math newydd o berchnogaeth rhydd-ddaliad, a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr gan y Ddeddf, y rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol iddi ar 1 Mai 2002.
Mae cyfunddaliad yn cyfuno perchnogaeth rhydd-ddaliad uned mewn datblygiad gydag aelodaeth mewn cymdeithas cyfunddaliad. Mae'r gymdeithas (ac o ganlyniad, yr uned-ddalwyr) yn berchen ar ac yn gyfrifol am reoli a chynnal a chadw rhannau cyffredin y datblygiad. Mae'n ddewis amgen i berchnogaeth lesddaliad hir.
'Unedau' yw'r eiddo unigol yn yr ystad neu'r adeilad, megis fflat neu uned ddiwydiannol. Y 'rhannau cyffredin' yw gweddill yr adeilad neu'r ystad, (megis adeiladwaith yr adeilad neu ffordd yr ystad ac ati) nad ydynt yn rhan o'r unedau.
Defnyddir cyfunddaliad mewn rhannau eraill o'r byd eisoes, lle y caiff ei alw'n wahanol bethau:
- Condominiwm a pherchnogaeth gymunedol yng Nghanada a'r Unol Daleithiau
- Cyfraith Rhandir yn yr Alban a
- Teitlau Uned a Strata yn Awstralia a Seland Newydd.
Bydd cyfunddaliad yn parhau oni bai y caiff ei derfynu dan ddarpariaethau yn y Ddeddf. Trafodir hyn yn fanylach yn nes ymlaen yn y cyfarwyddyd.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod y rhesymau dros gyflwyno cyfunddaliad.