Cyfarwyddyd i gydradd-ddaliad
Pam y cafodd ei gyflwyno
Pam y cafodd cydradd-ddaliad ei gyflwyno
Yn hanesyddol, eiddo prydlesol oedd y rhan fwyaf o fflatiau yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn rhannol oherwydd na fu’n bosibl gorfodi cyfamodau cadarnhaol, fel rhai i sicrhau cynhaliaeth i rannau o adeiladau, heblaw am dir prydlesol. Mae cydradd-ddaliad yn goresgyn y broblem hon ac yn cynnig dewis amgen i greu prydles a chael landlord.
Mae cydradd-ddaliad yn wahanol i berchnogaeth lesddaliad hir oherwydd:
- mae'r dogfennau wedi eu safoni
- mae'r gymdeithas cymuned cydradd-ddaliad (sy'n ‘eiddo’ i’r uned-ddalwyr) yn rheoli ei busnes ei hun heb gyfeirio at landlord trydydd parti
- mae gweithdrefnau datrys anghydfod yn cynnig dewis amgen i broses y llysoedd.
Cynhwysir defnydd a threfniadau cynnal a chadw’r unedau a hawliau a dyletswyddau’r uned-ddalwyr a’r gymdeithas yn y datganiad cymuned cydradd-ddaliad, sef dogfen allweddol y gymuned cydradd-ddaliad gyfan.
Un o fanteision eraill cydradd-ddaliad yw bod y tir yn cadw’i werth oherwydd ei fod yn rhydd-ddaliad, tra bod gwerth tir prydlesol yn gostwng wrth i gyfnod y brydles ddod i ben. Gall y gwerth hwn sy’n gostwng effeithio ar allu lesddeiliaid i gael morgais.
Mae’r dudalen nesaf yn trafod y dogfennau sy’n hanfodol er mwyn creu a rheoli cydradd-ddaliad.