www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cyfarwyddyd i gyfunddaliad Pam y cafodd ei gyflwyno Contents Previous Next

    Pam y cafodd cyfunddaliad ei gyflwyno

    Yn hanesyddol, eiddo prydlesol oedd y rhan fwyaf o fflatiau yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn rhannol oherwydd na fu'n bosibl gorfodi cyfamodau cadarnhaol, fel rhai i sicrhau cynhaliaeth i rannau o adeiladau, heblaw am dir prydlesol. Mae cyfunddaliad yn goresgyn y broblem hon ac yn cynnig dewis amgen i greu prydles a chael landlord.

    Mae cyfunddaliad yn wahanol i berchnogaeth lesddaliad hir oherwydd:

    • mae'r dogfennau wedi eu safoni
    • mae'r gymdeithas cymuned cyfunddaliad (sy'n 'eiddo' i'r uned-ddalwyr) yn rheoli ei busnes ei hun heb gyfeirio at landlord trydydd parti
    • mae gweithdrefnau datrys anghydfod yn cynnig dewis amgen i broses y llysoedd.

    Cynhwysir defnydd a threfniadau cynnal a chadw'r unedau a hawliau a dyletswyddau'r uned-ddalwyr a'r gymdeithas yn y datganiad cymuned cyfunddaliad, sef dogfen allweddol y gymuned cyfunddaliad gyfan.

    Un o fanteision eraill cyfunddaliad yw bod y tir yn cadw'i werth oherwydd ei fod yn rhydd-ddaliad, tra bod gwerth tir prydlesol yn gostwng wrth i gyfnod y brydles ddod i ben. Gall y gwerth hwn sy'n gostwng effeithio ar allu lesddeiliaid i gael morgais.

    Mae'r dudalen nesaf yn trafod y dogfennau sy'n hanfodol er mwyn creu a rheoli cyfunddaliad.