Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cyflwyniad Contents Previous Next

Cofrestru prydlesi a buddion prydlesol

Croeso i fodiwl e-ddysgu dywygiedig y Gofrestrfa Tir ar gofrestru prydlesi a buddion prydlesi. Mae'r modiwl yn disodli hwnnw a gyhoeddwyd yn flaenorol ar y wefan a'r modiwl a gyhoeddwyd ar CD-Rom yn Ebrill 2005.

Nid yw'r modiwl yn ymdrin â phrydlesi cymalau penodedig. Mae'r rhain yn cael eu trafod mewn modiwl ar wahân.

Mae'r modiwl hwn yn esbonio sut byddwn yn ymdrin â buddion prydlesol yn y system gofrestru tir. Anelir y modiwl at y lefel ganolradd, hy. y rhai sydd â gwybodaeth dda o faterion prydlesol. Mae'n cael ei rannu'n benodau fel a ganlyn:

  • Caniatâd: mae'n esbonio beth i'w wneud pan fo angen caniatâd trydydd parti.
  • Terfynu prydles: mae'n nodi gofynion cofrestru pan fo prydles yn cael ei therfynu.
  • Hawddfreintiau mewn prydlesi: mae'n esbonio'r angen i gofrestru hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd mewn prydlesi.
  • Cynlluniau prydlesi: mae'n edrych yn fanwl ar ofynion y Gofrestrfa Tir o ran cynlluniau prydlesi.
  • Opsiynau mewn prydlesi: mae'n dangos i chi sut i warchod y buddion hyn.
  • Cyfamodau cyfyngu: mae'n ymdrin â gwarchod cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi.
  • Amrywio prydles: mae'n esbonio sut bydd y Gofrestrfa Tir yn ymdrin â'r ceisiadau hyn sydd yn aml yn gymhleth.
  • Pryd i gofrestru: mae'n eich cynorthwyo i benderfynu pryd bydd rhaid cofrestru prydles.

Gallwch lywio trwy bob adran fesul tudalen trwy glicio ar y botymau "nesaf" neu "blaenorol" ar frig y dudalen ar y dde. Neu gallwch fynd yn syth i'r adran neu isadran sydd o ddidordeb i chi trwy glicio ar y botwm "cynnwys".