Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Prydlesi Caniatâd Contents Previous Next

Caniatâd rhybuddiwr

Mae dau gategori o rybuddiadau: yn erbyn cofrestriad cyntaf neu yn erbyn deliadau â thir cofrestredig.

Rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf

Gall unigolyn sydd â budd mewn ystad ddigofrestredig gofrestru rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Pan gyflwynir cofrestriad cyntaf budd sy'n effeithio, megis prydles, cyflwynir rhybudd i'r rhybuddiwr.


Dylai caniatâd gael ei gyflwyno os yw un ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno rhybudd i'r rhybuddiwr hefyd, ond nid yw hyn yn golygu nad oes rhaid cyflwyno caniatâd os oes un ar gael.

Rhybuddiadau yn erbyn deliadau â thir cofrestredig

Cyn 13 Hydref 2003 gallai unigolyn gyda budd mewn ystad gofrestredig gofrestru rhybuddiad yn erbyn deliadau â'r ystad honno. Fodd bynnag, diddymwyd y math hwn o rybuddiad gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Er nad oes modd cofrestru rhybuddiadau yn erbyn deliadau mwyach, mae rhybuddiadau sy'n bod yn parhau mewn grym ac felly bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno rhybudd i'r rhybuddiwr pan fydd cais sy'n effeithio, megis prydles, yn cael ei gyflwyno. Os oes caniatâd ar gael dylid ei gyflwyno gyda'r cais i gofrestru'r brydles.

Dyma ddiwedd yr adran ar ganiatâd rhybuddiwr.