Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Caniatâd Contents Previous Next

Caniatâd arwystlai lle bo arwystl ar deitl y landlord

Lle bo arwystl ar deitl y landlord ar adeg rhoi'r is-brydles. Mae'n whanol i'r sefyllfa lle bo gan arwystlai gyfyngiad ar deitl y landlord sy'n gwahardd gwarediad heb ganiatâd. Mae hyn yn cael ei drafod yn fanwl yn yr adran caniatâd cyfyngwr.  

Yng nghyd-destun yr adran hon, mae'r term 'arwystl' yn cynnwys arwystlon cyfreithiol, morgeisi, arwystlon ecwitïol sefydlog, ac arwystlon ansefydlog.

Newid ymarfer

O 19 Mehefin 2006, ni fydd diffyg caniatâd gan arwystlai teitl y landlord yn rhwystro rhoi teitl llwyr i'r is-brydles. Os na chyflwynwyd caniatâd caiff y cofnod canlynol ei wneud yng nghofrestr yr is-brydles:

"Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig ... o blaid ... sy'n effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i'r graddau y mae'r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy'n disodli neu yn amrywio'r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o'r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i'r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai fod y brydles wedi'i hawdurdodi gan adran 99 Deddf Cyfraith Eiddo 1925."

Diben y cofnod hwn yw tynnu sylw unrhyw ddarpar brynwyr at wendid posib yn y brydles gofrestredig.

Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar y dystiolaeth y gellir ei chyflwyno gan arwystlai.