Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Caniatâd Contents Previous Next

Caniatâd gan arwystlai - y dystiolaeth sy'n ofynnol

Caniatâd neu ryddhad

Gall arwystlai roi caniatâd trwy lythyr caniatâd ffurfiol, neu gall gyflwyno rhyddhad o ran (Ffurflen DS3) yn lle hynny. Fodd bynnag, os defnyddir DS3 bydd rhaid gwneud cofnod ar deitl y landlord bod y rhan a brydleswyd wedi cael ei rhyddhau o'r arwystl. Gyda theitl sy'n cynnwys nifer mawr o adeiladau prydlesol gall hyn fod yn lletchwith. Am y rheswm hwn, defnyddio caniatâd yw'r dewis gorau.

Cewch fwy o wybodaeth am ffurf caniatâd neu ryddhad yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 31 y Gofrestrfa Tir - Rhyddhau Arwystlon.

Prydlesi a roddir dan ddeddfwriaeth Hawl i Brynu, neu Hawl i Gaffael

Os yw prydles wedi cael ei rhoi dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985, mae'n bosib na fydd angen caniatâd yr arwystlai neu ryddhad. Cewch fwy o fanylion yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 47 y Gofrestrfa Tir - Trosglwyddo ystadau tai cyhoeddus.

Dyma ddiwedd y bennod ar ganiatâd.