Caniatâd landlord Yn aml mae prydlesi yn cynnwys cymal sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar bŵer y tenant i isosod y tir a brydleswyd. Yr enw cyffredin am hyn yw 'cymal aralliad'. Pan fo'r cymal hwn yn ymddangos mewn prydles sy'n cael ei chofrestru, mae'r Gofrestrfa Tir yn gwneud y cofnod canlynol yng Nghofrestr Eiddo teitl y tenant dan reol 6(2) Rheolau Cofrestru Tir 2003: "Eithrir o effaith cofrestru pob ystad, hawl, budd, pŵer a rhwymedi sy'n codi o ganlyniad i neu trwy unrhyw ddeliad a wneir yn groes i'r gwaharddiad neu gyfyngiad ar ddelio â'r rheiny inter vivos a gynhwysir yn y Brydles." Pe byddai'r tenant yn rhoi is-brydles yn nes ymlaen, ymarfer y Gofrestrfa Tir fyddai archwilio'r brif brydles i weld a oedd angen caniatâd. Os na chyflwynwyd y caniatâd angenrheidiol dim ond teitl prydlesol da fyddai'n cael ei roi i'r is-brydles. Mae'r ymarfer hwn wedi newid nawr. Ymarfer newydd o 19 Mehefin 2006 O 19 Mehefin 2006, ni fydd diffyg caniatâd yn rhwystro rhoi teitl llwyr.
Mae'r ymarfer newydd hwn ar sail nad oes unrhyw beth yn atal yr is-brydles rhag bod yn brydles gyfreithiol oherwydd toriad o'r cymal aralliad, er bod y toriad hwn yn debygol o wneud yr is-brydles yn agored i derfynu trwy fforffediad y brif brydles neu'r uwch bydles. Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar sut bydd yr ymarfer newydd yn cael ei weithredu. |