Caniatâd cyfyngwr Pan fydd teitl cofrestredig landlord yn cynnwys cyfyngiad yn y Gofrestr Perchnogaeth, rhaid cydymffurfio â thelerau'r cyfyngiad cyn y gellir cofrestru unrhyw brydles o'r teitl hwnnw. Y mathau mwyaf cyffredin o gyfyngiad yw'r rheiny sy'n: - gofyn am ganiatâd trydydd parti, gan gynnwys arwystlai
- cyfyngu gwarediad gan unig berchennog
- mynnu bod rhybudd yn cael ei roi
- pennu bod tystysgrif yn cael ei chyflwyno sy'n cadarnhau y cydymffurfiwyd â darpariaethau statudol arbennig.
Lle bo cyfyngiad wedi'i gofrestru yn erbyn teitl y landlord, ni ellir cofrestru is-brydles heb ganiatâd. Ni ellir rhoi teitl prydlesol da yn unig os na chyflwynir y caniatâd. Caiff y cais ei ddileu.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod pa dystiolaeth sy'n agenrheidiol i fodloni'r gwahanol gyfyngwyr. |