Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Prydlesi Caniatâd Contents Previous Next

Caniatâd cyfyngwr

 

Cyfyngiad ffurf A - cydberchnogion

Enghraifft: "Nid oes unrhyw warediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig i'w gofrestru, ac eithrio corfforaeth ymddiried, y mae arian cyfalaf yn codi ohono, oni bai yr awdurdodir hyn gan orchymyn llys."

Yn yr achos hwn mae'n rhaid i unrhyw warediad gan unig berchennog y mae arian cyfalaf yn codi ohono ddod â naill ai tystiolaith o ddysgyniad yr ystad ecwitïol, penodiad cyd-ymddiriedolwr, cais i ddileu'r cyfyngiad neu orchymyn y llys.



Cyfyngiadau sy'n mynnu bod rhybudd yn cael ei roi

Enghraifft: "Nid oes unrhyw warediad o'r ystad gofrestredig i'w gofrestru heb dystysgrif wedi'i harwyddo gan y ceisydd i gofrestru neu ei drawsgludwr bod rhybudd ysgrifenedig o'r gwarediad wedi cael ei roi i..."

Yn yr achos hwn rhaid cyflwyno tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau bod y rhybudd wedi cael ei gyflwyno. Nid yw cyflwyno copi o'r rhybudd yn unig yn dderbyniol.

Prydlesi a roddir dan ddeddfwriaeth Hawl i Brynu

Enghraifft: "Nid oes unrhyw drosglwyddiad neu brydles o'r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig neu berchennog unrhyw arwystl cofrestredig i'w gwblhau trwy gofrestru oni bai fod hyn yn unol ag adran 156A Deddf Tai 1985 ..."

Os oedd teitl y landlord wedi'i gaffael dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985, gall y teitl gynnwys y cyfyngiad a ddangosir uchod. Fel arall gall y cyfyngiad gyfeirio at adrannau 12A neu 36A y Ddeddf. Ym mhob achos o'r fath bydd tystysgrif cydymffurfiaeth a roddir gan drawsgludwr yn ofynnol pan fydd unrhyw warediad yn cael ei gyflwyno i'w gofrestru.

Dyma ddiwedd y modiwl ar ganiatâd cyfyngwr.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod caniatâd rhybuddiwr.