Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Terfynu Contents Previous Next

Gall prydles gael ei therfynu mewn sawl ffordd: Ceir esboniad o'r rhain isod.

Cyd-ddoddiad
Pan fydd ystad brydlesol mewn tir ynghyd â'r ystad rifersiwn dan yr un berchnogaeth ac yn cael eu dal yn yr un rhinwedd. Mae cyd-doddiad yn fater o fwriad, hynny yw, mae'n rhaid bod y sawl sy'n dal y ddwy ystad eisiau cyd-doddiad. Fel arall gall y ddau deitl barhau i fodoli ar wahân
(rhagor o wybodaeth)

Ildiad trwy weithred
Pan fydd tenant yn ildio prydles i'r landlord agosaf, sy'n derbyn yr ildiad. Yna mae'r brydles yn cael ei chynnwys yn y rifersiwn a'i therfynu
(rhagor o wybodaeth)

Ildiad trwy weithrediad y gyfraith
Pan fydd digwyddiad yn codi sydd yn ôl y gyfraith yn cael yr effaith o ildio brydles. Enghreifftiau cyffredin yw rhoi prydles newydd i'r un unigolyn, ymestyn y tymor neu pan fydd tenant yn gadael yr eiddo ac yn rhoi'r allweddi i'r perchennog;
(rhagor o wybodaeth)

Terfynu trwy rybudd
Pan fydd prydles am dymor penodol yn gallu cael ei therfynu'n gynnar. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw pan fydd 'cymal terfynu' yn y brydles yn caniatáu iddi gael ei therfynu'n gynnar. Enghraifft arall yw pan fydd 'cymal llesteirio' yn y brydles - cymal sy'n caniatáu terfynu'n gynnar os yw'r adeilad yn cael ei ddinistrio gan dân neu ddigwyddiad tebyg;
(rhagor o wybodaeth)

Allrediad amser
Pan fydd tymor penodol prydles wedi dod i ben. Fodd bynnag, gall terfynu trwy allrediad amser gael ei effeithio gan ddarpariaethau Deddf Landlord a Thenant 1954 neu Ddeddf Llywodraeth Leol 1989, a all ymestyn y tymor y tu hwnt i'w ddyddiad gwreiddiol;
(rhagor o wybodaeth)

Ymwadiad
Pan fydd tenant yn troi'n fethdalwr neu'n ansolfent a naill ai mae'r ymddiriedolwr mewn methdaliad neu' r diddymwr yn rhoi'r gorau i'r (ymwadu â'r) brydles. Yn yr achos hwn mae'r brydles yn cael ei therfynu;
(rhagor o wybodaeth)

Fforffediad
Fel arfer pan fydd tenant wedi methu â chydymffurfio â'r amodau neu'r cyfamodau mewn prydles, megis talu'r rhent neu gynnal a chadw'r eiddo, ac mae'r landlord yn cael ail-fynediad i'r tir a brydlesir. Mae fforffediad yn cael ei weithredu naill ai trwy ddwyn achos llys neu drwy ail-fynediad heddychlon. Os yw prydles yn fforffed, bydd unrhyw brydles sy'n dod ohoni yn cael ei therfynu hefyd. I gael gwybodaeth gynhwysfawr am fforffediad gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 26 y Gofrestrfa Tir - Prydlesi: terfynu.

Dyma ddiwedd y bennod ar derfynu prydles.