Ildiad trwy weithred
Pan fydd tenant yn ildio prydles i'r landlord agosaf, sy'n derbyn yr ildiad. Yna mae'r brydles yn cael ei chynnwys yn y rifersiwn a'i therfynu. Rhaid i'r weithred ildio fynegi'n glir bod y tenant yn ildio'r brydles. Tystiolaeth ddogfennol o deitl sydd ei hangen Mae angen teitl dogfennol i ddangos bod y brydles wedi'i hildio a chyda chaniatād y landlord. Fel arfer bydd hyn ar ffurf gweithred a lofnodwyd gan y landlord. Fel arall bydd rhaid darparu caniatād ysgrifenedig ffurfiol. Rhaid cyflwyno'r brydles a'r gwrthran hefyd. Os nad ydynt ar gael rhaid cyfrif am eu lleoliad.
Ffurflenni cais - Mae angen ffurflen AP1 i gau unrhyw deitl prydlesol cofrestredig.
- Os yw'r brydles yn ddigofrestredig ond wedi'i nodi ar deitl cofrestredig y landlord, dim ond ffurflen CN1 sydd ei hangen i ddileu rhybudd o'r brydles. Lle bo'r brydles wedi'i nodi fel Rhybudd Unochrog, bydd angen ffurflen UN4 neu UN2 yn lle ffurflen CN1.
- Os yw'r brydles yn ddigofrestredig ond mae teitl y landlord yn cael ei gofrestru fel cofrestriad cyntaf, gellir gwneud y cais i ildio ar ffurflen FR1.
Gofynion eraill - Efallai na fydd ildio'n bosibl os na ddeliwyd ā phob llyffethair sy'n effeithio ar yr ystad brydlesol, hy arwystl, rhybuddiad neu gyfyngiad ac ati. Rhaid darparu rhyddhad, caniatād neu ollyngiad fel y bo'n briodol.
- Os oes cyfyngiad Ffurf A ar yr ystad brydlesol, mae ildio'n 'warediad' at ddibenion y cyfyngiad. Os yw'r ildio am arian cyfalaf a chan un perchennog cofrestredig yn unig, ni fydd yn bosibl cau'r teitl prydlesol.
Treth tir toll stamp Nid oes angen tystiolaeth Treth Tir Toll Stamp ar gyfer ildio prydles trwy weithred os cafodd y brydles ei hildio ar neu ar ōl 12 Mawrth 2008 ac mae'r canlynol yn wir: - rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu fwy; ac
- mae'r gydnabyddiaeth am aseinio neu ildio'r brydles, heblaw'r rhent, yn llai na £40,000; neu
- rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu lai; ac
- nid yw'r gydnabyddiaeth am aseinio neu ildio'r brydles yn uwch na'r trothwy cyfradd o ddim.
|