www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi: terfynu

Cyd-doddiad

Pan fydd ystad brydlesol mewn tir ynghyd â'r ystad rifersiwn dan yr un berchnogaeth ac yn cael eu dal yn yr un rhinwedd. Mae cyd-doddiad yn fater o fwriad, hynny yw, mae'n rhaid bod y sawl sy'n dal y ddwy ystad eisiau cyd-doddiad. Fel arall gall y ddau deitl barhau i fodoli ar wahân.

 

Ystyr y geiriau 'eu dal yn yr un rhinwedd'  yw bod rhaid i'r ddau deitl gael eu dal yn yr un ffordd. Er enghraifft, er y gall  enwau perchnogion cofrestredig y ddau deitl fod yr un fath, os yw un teitl yn cael ei ddal gan ddau neu fwy o gyd-denantiaid llesiannol a'r llall gan denantiaid cydradd, neu os yw un teitl yn cael ei ddal ar ymddiried a'r llall dan ymddiried gwahanol, ni fydd cyd-doddi yn bosibl.

Tystiolaeth ddogfennol o deitl sydd ei hangen

Ym mhob sefyllfa rhaid dangos tystiolaeth ddogfennol i brofi bod y ddwy ystad (ystad y landlord ac ystad y tenant) wedi dod dan yr un berchnogaeth a'u bod yn cael eu dal yn yr un rhinwedd. Gall hyn fod ar ffurf naill ai'r dogfennau eu hun neu grynodeb neu dalfyriad teitl archwiliedig. Mae angen ffurflen DL hefyd ynghyd â'r brydles a'r gwrthran. Os nad yw'r gweithredoedd hyn ar gael rhaid cyfrif am eu lleoliad.

Ffurflenni cais

  • Mae angen ffurflen AP1 i gau unrhyw deitl prydlesol cofrestredig.
  • Os yw'r brydles yn ddigofrestredig ond wedi'i nodi ar deitl cofrestredig y landlord, dim ond ffurflen CN1 sydd ei hangen i ddileu rhybudd o'r brydles. Lle bo'r brydles wedi'i nodi fel Rhybudd Unochrog, bydd angen ffurflen UN4 neu UN2 yn lle ffurflen CN1.
  • Os yw'r brydles yn ddigofrestredig ond mae teitl y landlord yn cael ei gofrestru fel cofrestriad cyntaf, gellir gwneud y cais i gyd-doddi ar ffurflen FR1.

Gofynion eraill

  • Rhaid i unrhyw arwystl newydd a gyflwynir fod yn erbyn y teitl rifersiynol yn unig.
  • Efallai na fydd cyd-doddiad yn bosib os na ddeliwyd â phob llyffethair sy'n effeithio ar yr ystad brydlesol , h.y. arwystl, rhybuddiad, neu gyfyngiad ac ati. Rhaid darparu rhyddhad, caniatâd neu ollyngiad fel y bo'n briodol.
  • Bydd unrhyw hawddfreintiau llesiannol a roddir yn y brydles yn dod i ben. Os oes angen yr hawddfreintiau o hyd ac ni ddarperir ar eu cyfer ar deitl y landlord, rhaid iddynt gael eu hail-roi mewn gweithred ar wahân.
  • Mae cyd-doddi yn fudd eithriedig dan reolau treth tir toll stamp ac nid oes angen Tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir neu Hunan Dystysgrif.