Ildiad trwy weithrediad y gyfraith Pan fydd digwyddiad yn codi sydd yn ōl y gyfraith yn cael yr effaith o ildio prydles. Enghreifftiau cyffredin yw rhoi prydles newydd i'r un unigolyn, ymestyn y tymor neu pan fydd tenant yn gadael yr eiddo ac yn rhoi'r allweddi i'r perchennog. Ni all ildiad trwy weithrediad y gyfraith fod yn unochrog; mae'n rhaid i'r landlord a'r tenant gytuno i ildio.
Tystiolaeth ddogfennol sydd ei hangen Lle rhoddir prydles newydd neu mae'r cais y cael ei wneud gyda chaniatād y landlord a'r tenant bydd y Gofrestrfa Tir yn gofyn am lythyr sy'n datgan nad ymrwymwyd i unrhyw weithred ildio. Gall y llythyr fod yn llythyr gan y trawsgludwr sy'n gweithredu ar ran y naill barti neu'r llall. Fel arall bydd angen datganiad statudol a bydd rhaid iddo wneud y canlynol: - nodi'r gydnabyddiaeth a dalwyd (os o gwbl)
- cadarnhau nad ymrwymwyd i unrhyw weithred ildio
- manylu ar sut a phryd yr adawodd y tenant yr adeiladau a dychwelyd yr allweddi os oedd y tenant yn meddiannu'r eiddo
- cadarnhau bod y rhent a oedd yn daladwy mewn unrhyw is-brydles yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord bellach.
Dylid cyflwyno'r brydles wreiddiol a'r gwrthran os ydynt yn eich meddiant. Fel arall dylid cyfrif am eu lleoliad. Os yw'r brydles yn gofrestredig ond mae teitl y landlord yn ddigofrestredig, bydd angen teitl dogfennol i deitl y landlord hefyd.
Ffurflenni cais - Mae angen ffurflen AP1 i gau unrhyw deitl prydlesol cofrestredig. Os rhoddir prydles newydd, dim ond un ffurflen sydd ei hangen i gwmpasu'r ddau gais.
- Os yw'r brydles yn ddigofrestredig ond wedi'i nodi ar deitl cofrestredig y landlord, dim ond ffurflen CN1 sydd ei hangen i gau rhybudd o'r brydles. Os yw'r brydles wedi'i nodi fel Rhybudd Unochrog, bydd angen Ffurflen UN4 neu UN2 yn lle ffurflen CN1.
Toll stampiau neu dreth tir toll stamp Fel rheol bydd ildiad prydles yn 'drafodiad' at ddibenion toll stampiau a threth tir toll stamp. Bydd unrhyw ddogfen gan gynnwys caniatād, llythyr, datganiad statudol neu ffurflen y Gofrestrfa Tir sy'n dystiolaeth o'r ildiad yn cynrychioli offeryn ildio at ddibenion adran 128 Deddf Cyllid 2000. - Ar gyfer trafodion dyddiedig cyn 1 Rhagfyr 2003, gall toll stampiau fod yn gymwys. Yn yr achos hwn os yw gweithred ildio am gydnabyddiaeth ariannol y mae'r landlord yn ei thalu i'r tenant, ar ben hynny a dalwyd am brydles newydd, mae toll yn daladwy fel ar gyfer trosglwyddiad am werth ac mae angen stamp "Cyflwynwyd" neu "Derbyniwyd". Os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth ariannol, neu os yw'r arian yn cael ei dalu gan y tenant i'r landlord, mae toll sefydlog o £5.00 yn daladwy (neu 50c os yw'r weithred yn ddyddiedig cyn 1 Hydref 1999). Os nad oes toll yn daladwy, bydd angen ffurflen L(A)451.
- Yn achos trafodion dyddiedig ar neu ar ōl 1 Rhagfyr 2003 mae ildiad yn drafodiad tir at ddiben treth tir toll stamp. Bydd rhaid cyflwyno Tystysgrif Dychweleb Trafodiad Tir neu Hunan Dystysgrif.
|