Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Hawddfreintiau mewn prydlesi Contents Previous Next

Mae'r bennod hon yn cyfeirio at hawddfreintiau cyfreithiol trwy grant datganedig neu neilltuad yn unig. Am ddulliau caffael eraill gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 62 y Gofrestrfa Tir - Hawddfreintiau.

 

Prydlesi a roddwyd cyn 13 hydref 2003

Os nad oedd modd cofrestru prydles dan DCT 1925, nid oedd rhaid cofrestru unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol yn y brydles.

 

  • Os oedd y tir caeth yn ddigofrestredig adeg y grant, mae'r hawddfreintiau cyfreithiol yn gyfrwymol ac yn gor-redeg cofrestriad cyntaf y tir caeth (Atodlen 1, paragraff 3 DCT 2002).  
  • Os oedd y tir caeth yn gofrestredig adeg y grant, roedd yr hawddfreintiau cyfreithiol yn weithredol fel buddion gor-redol (adran 70 DCT 1925) ac yn parhau i fod yn or-redol dan DCT 2002 (Atodlen 3, paragraff 3).

Os oedd y tir caeth yn ddigofrestredig gellid gwarchod hawddfreintiau ecwitïol dan bridiant tir Dosbarth D(iii) neu trwy gofnodi rhybudd os oedd yn gofrestredig.

Bydd gwaredu â phrydles nad oedd modd ei chofrestru o'r blaen ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, yn peri cofrestriad gorfodol os oes mwy na saith mlynedd o dymor y brydles ar ôl ar adeg y gwarediad. Yn yr achos hwn bydd y Gofrestrfa Tir yn archwilio'r hawddfreintiau yn y brydles fel rhan o'r cais am gofrestriad cyntaf a nodi'r baich heb gais ar wahân.

 

Mae'r dudalen nesaf yn trafod prydlesi ar roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003.