www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Hawddfreintiau mewn prydlesi Contents Previous Next

    Prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003

    Mae'n rhaid cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol a grëwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 i fod yn weithredol yn ôl y gyfraith (adran 27 DCT 2002). Nid yw hyn yn cynnwys hawddfreintiau a roddwyd o ganlyniad i weithrediad adran 62 DCE 1925.

    Mae angen cofrestru hyd yn oed lle nad oes modd cofrestru y brydles ei hun. Mae methu â chofrestru yn golygu bod yr hawddfreintiau yn weithredol mewn ecwiti yn unig.

    Mae'n rhaid parhau i ddiogelu hawddfreintiau ecwitïol trwy bridiant tir Dosbarth D(iii) lle bo'r tir caeth yn ddigofrestredig, neu drwy rhybudd a gytunwyd neu unochrog (gan ddefnyddio ffurflen AN1 neu UN1) lle bo'r tir yn gofrestredig.

    Prydlesi y gellir eu cofrestru

    • Yn achos cofrestriad cyntaf, bydd y Gofrestrfa Tir yn archwilio hawddfreintiau yn y brydles a'u nodi'n awtomatig yn erbyn unrhyw dir caeth cofrestredig. Bydd rhaid gwneud cais i gofrestru'r budd ar deitl arall gan ddefnyddio ffurflen AP1.
    • Yn achos prydles sy'n warediad ystad gofrestredig, bydd y Gofrestrfa Tir yn cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol sy'n effeithio ar deitl rifersiynol uniongyrchol y landlord yn awtomatig ar yr un pryd â chofrestru'r tir. Caiff hawddfreintiau ecwitïol eu nodi hefyd.
    • Os oes angen cais ar wahân, rhaid defnyddio ffurflen AP1. Ni fydd defnyddio ffurflen AN1 (rhybudd a gytunwyd) neu UN1 (rhybudd unochrog) yn bodloni gofynion cofrestru adran 27 (gweler rheol 90 RhCT 2003) ac os gwneir cais ar ffurflen AN1, ychwanegir nodyn at y cofnod yn y gofrestr i'r perwyl hwnnw.
    • Os yw'r tir caeth yn ddigofrestredig bydd hawddfraint gyfreithiol yn rhwymo prynwr olynol ac yn gor-redeg ar gofrestriad cyntaf y tir hwnnw (Atodlen 1, paragraff 3 DCT 2002). Fodd bynnag, gall y perchennog trech wneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf y tir caeth (trwy ddefnyddio ffurflen CT1) i dderbyn rhybudd o'i gofrestru fel y gellir nodi'r hawl.

    Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar hawddfreintiau mewn prydles nad oes modd ei chofrestru.