Prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 parhad Mae hawddfreintiau a roddwyd o dir cofrestredig yn warediadau
Mae rhoi hawddfraint o dir cofrestredig yn warediad cofrestradwy (adran 27 DCT 2002) a bydd rhaid i'r cais i gofrestru'r hawddfraint gynnwys ffurflen DI (buddion gor-redol dadlenadwy) sy'n dadlennu bodolaeth buddion gor-redol penodol sy'n effeithio ar yr ystad (adran 71 DCT 2002).
Mae hyn yn golygu os nad oes modd cofrestru'r brydles a greodd yr hawddfraint ond gellir ei nodi ac mae'n deillio o'r un teitl â'r tir a effeithir gan yr hawddraint, rhaid ei dadlennu ar ffurflen DI. Yna caiff ei nodi ar yr un pryd ag mae'r hawddfraint yn cael ei chofrestru.
Prydlesi nad oes modd eu cofrestru Lle nad oes modd cofrestru prydles a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, mae'n rhaid cofrestru unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddwyd neu a neilltuwyd gan y brydles dros dir cofrestredig o hyd (adran 27 DCT 2002). Dylid defnyddio ffurflen AP1. Ni fydd defnyddio ffurflen AN1 neu UN1 yn bodloni gofynion cofrestru adran 27 ac bydd nodyn i'r perwyl hwn yn cael ei ychwanegu at y cofnod ar y gofrestr os yw ffurflen AN1 wedi cael ei defnyddio. Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar brydlesi nad oes modd eu cofrestru neu eu nodi. |