www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Hawddfreintiau mewn prydlesi Contents Previous Next

    Prydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 parhad

    Mae hawddfreintiau a roddwyd o dir cofrestredig yn warediadau

    Mae rhoi hawddfraint o dir cofrestredig yn warediad cofrestradwy (adran 27 DCT 2002) a bydd rhaid i'r cais i gofrestru'r hawddfraint gynnwys ffurflen DI (buddion gor-redol dadlenadwy) sy'n dadlennu bodolaeth buddion gor-redol penodol sy'n effeithio ar yr ystad (adran 71 DCT 2002).

    Mae hyn yn golygu os nad oes modd cofrestru'r brydles a greodd yr hawddfraint ond gellir ei nodi ac mae'n deillio o'r un teitl â'r tir a effeithir gan yr hawddraint, rhaid ei dadlennu ar ffurflen DI. Yna caiff ei nodi ar yr un pryd ag mae'r hawddfraint yn cael ei chofrestru.

    Prydlesi nad oes modd eu cofrestru

    Lle nad oes modd cofrestru prydles a roddwyd ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, mae'n rhaid cofrestru unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddwyd neu a neilltuwyd gan y brydles dros dir cofrestredig o hyd (adran 27 DCT 2002). Dylid defnyddio ffurflen AP1. Ni fydd defnyddio ffurflen AN1 neu UN1 yn bodloni gofynion cofrestru adran 27 ac bydd nodyn i'r perwyl hwn yn cael ei ychwanegu at y cofnod ar y gofrestr os yw ffurflen AN1 wedi cael ei defnyddio.

    Mae'r dudalen nesaf yn edrych ar brydlesi nad oes modd eu cofrestru neu eu nodi.